Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 4:1-16

Genesis 4:1-16 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Cysgodd Adda gyda’i wraig Efa, a dyma hi’n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Cain, ac meddai, “Dw i wedi cael plentyn, gyda help yr ARGLWYDD.” Wedyn cafodd blentyn arall, brawd i Cain, sef Abel. Tyfodd Abel i fod yn fugail, ond roedd Cain yn trin y tir. Adeg y cynhaeaf daeth Cain â pheth o gynnyrch y tir i’w roi yn offrwm i’r ARGLWYDD. Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi’r rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel a’i offrwm yn plesio’r ARGLWYDD, ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain a’i offrwm e. Roedd Cain wedi gwylltio’n lân. Roedd i’w weld ar ei wyneb! Dyma’r ARGLWYDD yn gofyn i Cain, “Ydy’n iawn i ti wylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig? Os gwnei di beth sy’n iawn bydd pethau’n gwella. Ond os na wnei di beth sy’n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.” Dwedodd Cain wrth ei frawd, “Gad i ni fynd allan i gefn gwlad.” Yna pan oedden nhw allan yng nghefn gwlad dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a’i ladd. Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Cain, “Ble mae Abel, dy frawd di?” Atebodd Cain, “Dw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wedi’i wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o’r pridd. Melltith arnat ti. Rhaid i ti adael y tir yma lyncodd waed dy frawd pan wnest ti ei ladd. Byddi’n ceisio trin y tir ond yn methu cael cnwd da ohono. Byddi’n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad.” Ac meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Mae’r gosb yn ormod i mi ei chymryd! Ti wedi fy ngyrru i ffwrdd o’r tir, a bydda i wedi fy nhorri i ffwrdd oddi wrthot ti. Bydda i’n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad, a bydd pwy bynnag sy’n dod o hyd i mi yn fy lladd.” Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Na. Bydd pwy bynnag sy’n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith drosodd.” A dyma’r ARGLWYDD yn marcio Cain i ddangos iddo na fyddai’n cael ei ladd gan bwy bynnag fyddai’n dod o hyd iddo. Felly aeth Cain i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a mynd i fyw i wlad Nod i’r dwyrain o Eden.

Genesis 4:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Cafodd Adda gyfathrach â'i wraig Efa, a beichiogodd ac esgor ar Cain, a dywedodd, “Dygais ŵr trwy yr ARGLWYDD.” Esgorodd wedyn ar ei frawd Abel. Bugail defaid oedd Abel, a Cain yn trin y tir. Ymhen amser daeth Cain ag offrwm o gynnyrch y tir i'r ARGLWYDD, a daeth Abel yntau â blaenffrwyth ei ddefaid, sef eu braster. Edrychodd yr ARGLWYDD yn ffafriol ar Abel a'i offrwm, ond nid felly ar Cain a'i offrwm. Digiodd Cain yn ddirfawr, a bu'n wynepdrist. Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Cain, “Pam yr wyt wedi digio? Pam yr wyt yn wynepdrist? Os gwnei yn dda, oni fyddi'n gymeradwy? Ac oni wnei yn dda, y mae pechod yn llercian wrth y drws; y mae ei wanc amdanat, ond rhaid i ti ei drechu.” A dywedodd Cain wrth Abel ei frawd, “Gad inni fynd i'r maes.” A phan oeddent yn y maes, troes Cain ar Abel ei frawd, a'i ladd. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Cain, “Ble mae dy frawd Abel?” Meddai yntau, “Ni wn i. Ai fi yw ceidwad fy mrawd?” A dywedodd Duw, “Beth wyt wedi ei wneud? Y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o'r pridd. Yn awr, melltigedig fyddi gan y pridd a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law. Pan fyddi'n trin y pridd, ni fydd mwyach yn rhoi ei ffrwyth iti; ffoadur a chrwydryn fyddi ar y ddaear.” Yna meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Y mae fy nghosb yn ormod i'w dwyn. Dyma ti heddiw yn fy ngyrru ymaith o'r tir, ac fe'm cuddir o'th ŵydd; ffoadur a chrwydryn fyddaf ar y ddaear, a bydd pwy bynnag a ddaw ar fy nhraws yn fy lladd.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Nid felly; os bydd i rywun ladd Cain, dielir arno seithwaith.” A gosododd yr ARGLWYDD nod ar Cain, rhag i neb a ddôi ar ei draws ei ladd. Yna aeth Cain ymaith o ŵydd yr ARGLWYDD, a phreswylio yn nhir Nod, i'r dwyrain o Eden.

Genesis 4:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais ŵr gan yr ARGLWYDD. A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio’r ddaear. A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i’r ARGLWYDD. Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o’u braster hwynt. A’r ARGLWYDD a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm: Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A dicllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynepryd ef. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynepryd? Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: atat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef. A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a’i lladdodd ef. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi? A dywedodd DUW, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o’r ddaear. Ac yr awr hon melltigedig wyt ti o’r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di. Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear. Yna y dywedodd Cain wrth yr ARGLWYDD, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddau. Wele, gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear, ac o’th ŵydd di y’m cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a’m caffo a’m lladd. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A’r ARGLWYDD a osododd nod ar Cain, rhag i neb a’i caffai ei ladd ef. A Chain a aeth allan o ŵydd yr ARGLWYDD, ac a drigodd yn nhir Nod, o’r tu dwyrain i Eden.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd