Genesis 39:7-9
Genesis 39:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd gwraig Potiffar yn ei ffansïo, ac meddai wrtho, “Tyrd i’r gwely hefo fi.” Ond gwrthododd Joseff, a dweud wrthi, “Mae fy meistr yn trystio fi’n llwyr. Mae e wedi rhoi popeth sydd ganddo yn fy ngofal i. Does neb yn ei dŷ yn bwysicach na fi. Dydy e’n cadw dim oddi wrtho i ond ti, gan mai ei wraig e wyt ti. Felly sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?”
Genesis 39:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ac ymhen amser rhoddodd gwraig ei feistr ei bryd ar Joseff a dweud, “Gorwedd gyda mi.” Ond gwrthododd, a dweud wrth wraig ei feistr, “Nid oes gofal ar fy meistr am ddim yn y tŷ; y mae wedi rhoi ei holl eiddo yn fy ngofal i. Nid oes neb yn fwy na mi yn y tŷ hwn, ac nid yw wedi cadw dim oddi wrthyf ond tydi, am mai ei wraig wyt. Sut felly y gwnawn i y drwg mawr hwn, a phechu yn erbyn Duw?”
Genesis 39:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A darfu wedi’r pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseff, a dywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyda mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i. Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn DUW!