Genesis 39:1-6
Genesis 39:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cymerwyd Joseff i lawr i'r Aifft, a phrynwyd ef o law yr Ismaeliaid, a oedd wedi mynd ag ef yno, gan Potiffar, Eifftiwr oedd yn swyddog i Pharo ac yn bennaeth y gwarchodwyr. Bu'r ARGLWYDD gyda Joseff, a daeth yn ŵr llwyddiannus. Yr oedd yn byw yn nhŷ ei feistr yr Eifftiwr, a gwelodd ei feistr fod yr ARGLWYDD gydag ef, a bod yr ARGLWYDD yn llwyddo popeth yr oedd yn ei wneud. Cafodd Joseff ffafr yn ei olwg, a bu'n gweini arno; gwnaeth yntau ef yn arolygydd ar ei dŷ a rhoi ei holl eiddo dan ei ofal. Ac o'r amser y gwnaeth ef yn arolygydd ar ei dŷ ac ar ei holl eiddo, bendithiodd yr ARGLWYDD dŷ'r Eifftiwr er mwyn Joseff; yr oedd bendith yr ARGLWYDD ar ei holl eiddo, yn y tŷ ac yn y maes. Gadawodd ei holl eiddo yng ngofal Joseff, ac nid oedd gofal arno am ddim ond y bwyd yr oedd yn ei fwyta. Yr oedd Joseff yn olygus a glân
Genesis 39:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Joseff wedi ei gymryd i lawr i’r Aifft gan yr Ismaeliaid. A dyma un o swyddogion y Pharo, sef Potiffar, capten y gwarchodlu, yn ei brynu e ganddyn nhw. Roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff. Roedd pethau’n mynd yn dda iddo wrth iddo weithio yn nhŷ ei feistr yn yr Aifft. Sylwodd ei feistr fod yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff a bod popeth roedd e’n ei wneud yn llwyddo. Felly am fod Joseff yn ei blesio, gwnaeth Potiffar e’n was personol iddo’i hun. Joseff oedd yn rhedeg popeth oedd yn digwydd yn y tŷ, am fod Potiffar wedi rhoi’r cwbl oedd ganddo yn ei ofal. Ac o’r diwrnod y cafodd Joseff ei benodi i’r swydd, roedd yr ARGLWYDD yn bendithio tŷ’r Eifftiwr. Roedd yn gwneud hyn er mwyn Joseff. Roedd popeth yn mynd yn dda i Potiffar, yn ei dŷ a’i dir. Felly Joseff oedd yn gofalu am bopeth iddo. Doedd Potiffar yn gorfod poeni am ddim byd ond beth i’w fwyta. Roedd Joseff yn ddyn ifanc cryf a golygus.
Genesis 39:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Joseff a ddygwyd i waered i’r Aifft: a Potiffar yr Eifftwr, tywysog Pharo a’i ddistain, a’i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a’i dygasant ef i waered yno. Ac yr oedd yr ARGLWYDD gyda Joseff, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Eifftiad. A’i feistr a welodd fod yr ARGLWYDD gydag ef, a bod yr ARGLWYDD yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe. A Joseff a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a’i gwasanaethodd ef: yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef. Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i’r ARGLWYDD fendithio tŷ’r Eifftiad, er mwyn Joseff: ac yr oedd bendith yr ARGLWYDD ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes. Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseff; ac ni wyddai oddi wrth ddim a’r a oedd gydag ef, oddieithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwyta: Joseff hefyd oedd deg o bryd, a glân yr olwg.