Genesis 37:5-9
Genesis 37:5-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond wedyn cafodd Joseff freuddwyd. Pan ddwedodd wrth ei frodyr am y freuddwyd, roedden nhw’n ei gasáu e fwy fyth. “Gwrandwch ar y freuddwyd yma ges i,” meddai wrthyn nhw. “Roedden ni i gyd wrthi’n rhwymo ysgubau mewn cae. Yn sydyn dyma fy ysgub i yn codi a sefyll yn syth. A dyma’ch ysgubau chi yn casglu o’i chwmpas ac yn ymgrymu iddi!” “Wyt ti’n meddwl dy fod ti’n frenin neu rywbeth?” medden nhw. “Wyt ti’n mynd i deyrnasu droson ni?” Roedden nhw’n ei gasáu e fwy fyth o achos y freuddwyd a beth ddwedodd e wrthyn nhw. Wedyn cafodd Joseff freuddwyd arall, a dwedodd am honno wrth ei frodyr hefyd. “Dw i wedi cael breuddwyd arall,” meddai. “Roedd yr haul a’r lleuad ac un deg un o sêr yn ymgrymu o mlaen i.”
Genesis 37:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cafodd Joseff freuddwyd, a phan ddywedodd wrth ei frodyr amdani, aethant i'w gasáu yn fwy fyth. Dywedodd wrthynt, “Gwrandewch, dyma'r freuddwyd a gefais: yr oeddem yn rhwymo ysgubau yn y maes, a dyma f'ysgub i yn codi ar ei sefyll, a daeth eich ysgubau chwi yn gylch o'i chwmpas ac ymgrymu i'm hysgub i.” Yna gofynnodd ei frodyr iddo, “Ai ti sydd i deyrnasu arnom? A fyddi di'n arglwydd arnom ni?” Ac aethant i'w gasáu ef yn fwy eto o achos ei freuddwydion a'i eiriau. Yna cafodd freuddwyd arall, ac adroddodd amdani wrth ei frodyr a dweud, “Cefais freuddwyd arall: dyna lle'r oedd yr haul a'r lleuad ac un seren ar ddeg yn ymgrymu i mi.”
Genesis 37:5-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef eto yn ychwaneg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, atolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i. Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes; ac wele, fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymasant i’m hysgub i. A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant eto ei gasáu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau. Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymu i mi.