Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 37:2-28

Genesis 37:2-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma hanes teulu Jacob: Pan oedd Joseff yn 17 oed, roedd gyda’i frodyr yn gofalu am y preiddiau. Llanc ifanc oedd e, yn gweithio gyda meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad. Ond roedd yn cario straeon am ei frodyr i’w dad. Roedd Israel yn caru Joseff fwy na’i feibion eraill i gyd, am fod Joseff wedi cael ei eni pan oedd e’n hen ddyn; ac roedd wedi gwneud côt sbesial iddo. Ond roedd ei frodyr yn ei gasáu, am fod eu tad yn caru Joseff fwy na nhw. Doedden nhw ddim yn gallu dweud run gair caredig wrtho. Ond wedyn cafodd Joseff freuddwyd. Pan ddwedodd wrth ei frodyr am y freuddwyd, roedden nhw’n ei gasáu e fwy fyth. “Gwrandwch ar y freuddwyd yma ges i,” meddai wrthyn nhw. “Roedden ni i gyd wrthi’n rhwymo ysgubau mewn cae. Yn sydyn dyma fy ysgub i yn codi a sefyll yn syth. A dyma’ch ysgubau chi yn casglu o’i chwmpas ac yn ymgrymu iddi!” “Wyt ti’n meddwl dy fod ti’n frenin neu rywbeth?” medden nhw. “Wyt ti’n mynd i deyrnasu droson ni?” Roedden nhw’n ei gasáu e fwy fyth o achos y freuddwyd a beth ddwedodd e wrthyn nhw. Wedyn cafodd Joseff freuddwyd arall, a dwedodd am honno wrth ei frodyr hefyd. “Dw i wedi cael breuddwyd arall,” meddai. “Roedd yr haul a’r lleuad ac un deg un o sêr yn ymgrymu o mlaen i.” Ond pan ddwedodd wrth ei dad a’i frodyr am y freuddwyd, dyma’i dad yn dweud y drefn wrtho. “Sut fath o freuddwyd ydy honna?” meddai wrtho. “Wyt ti’n meddwl fy mod i a dy fam a dy frodyr yn mynd i ddod ac ymgrymu o dy flaen di?” Roedd ei frodyr yn genfigennus ohono; ond roedd ei dad yn cadw’r peth mewn cof. Roedd ei frodyr wedi mynd ag anifeiliaid eu tad i bori wrth ymyl Sichem. A dyma Israel yn dweud wrth Joseff, “Mae dy frodyr wedi mynd â’r praidd i bori i Sichem. Dw i eisiau i ti fynd yno i’w gweld nhw.” “Iawn, dw i’n barod,” meddai Joseff. “Dos i weld sut maen nhw, a sut mae’r praidd,” meddai ei dad wrtho. “Wedyn tyrd yn ôl i ddweud wrtho i.” Felly dyma Joseff yn mynd o ddyffryn Hebron i Sichem. Pan gyrhaeddodd Sichem dyma ryw ddyn yn dod ar ei draws yn crwydro o gwmpas. Gofynnodd y dyn iddo, “Am beth ti’n chwilio?” “Dw i’n edrych am fy mrodyr,” meddai Joseff. “Alli di ddweud wrtho i ble maen nhw wedi mynd â’r praidd i bori?” A dyma’r dyn yn ateb, “Maen nhw wedi gadael yr ardal yma. Clywais nhw’n dweud eu bod yn mynd i Dothan.” Felly dyma Joseff yn mynd ar eu holau, ac yn dod o hyd iddyn nhw yn Dothan. Roedden nhw wedi’i weld yn dod o bell, a chyn iddo gyrraedd dyma nhw’n cynllwynio i’w ladd. “Edrychwch, mae’r breuddwydiwr mawr yn dod!” medden nhw. “Gadewch i ni ei ladd. Gallwn ei daflu i bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi’i ladd. Cawn weld beth ddaw o’i freuddwydion wedyn!” Dyma Reuben yn digwydd clywed beth ddwedon nhw, a llwyddodd i achub bywyd Joseff. “Na, gadewch i ni beidio â’i ladd,” meddai wrthyn nhw. “Peidiwch tywallt gwaed. Taflwch e i mewn i’r pydew yma yn yr anialwch, ond peidiwch gwneud niwed iddo.” (Bwriad Reuben oedd achub Joseff, a mynd ag e yn ôl at ei dad.) Felly pan ddaeth Joseff at ei frodyr, dyma nhw’n tynnu ei gôt oddi arno (y gôt sbesial roedd e’n ei gwisgo). Wedyn dyma nhw’n ei daflu i mewn i’r pydew. (Roedd y pydew yn wag – doedd dim dŵr ynddo.) Pan oedden nhw’n eistedd i lawr i fwyta, dyma nhw’n gweld carafán o Ismaeliaid yn teithio o gyfeiriad Gilead. Roedd ganddyn nhw gamelod yn cario gwm pêr, balm, a myrr i lawr i’r Aifft. A dyma Jwda’n dweud wrth ei frodyr, “Dŷn ni’n ennill dim drwy ladd ein brawd a cheisio cuddio’r ffaith. Dewch, gadewch i ni ei werthu e i’r Ismaeliaid acw. Ddylen ni ddim gwneud niwed iddo. Wedi’r cwbl, mae yn frawd i ni.” A dyma’r brodyr yn cytuno. Felly pan ddaeth y masnachwyr o Midian heibio, dyma nhw’n tynnu Joseff allan o’r pydew a’i werthu i’r Ismaeliaid am 20 darn o arian. A dyma’r Ismaeliaid yn mynd â Joseff gyda nhw i’r Aifft.

Genesis 37:2-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dyma hanes tylwyth Jacob. Yr oedd Joseff yn ddwy ar bymtheg oed, ac yn bugeilio'r praidd gyda'i frodyr, gan helpu meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad; a chariodd Joseff straeon drwg amdanynt i'w tad. Yr oedd Israel yn caru Joseff yn fwy na'i holl blant, gan mai mab ei henaint ydoedd; a gwnaeth wisg laes iddo. Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu yn fwy na'r un ohonynt, rhoesant eu cas arno fel na fedrent ddweud gair caredig wrtho. Cafodd Joseff freuddwyd, a phan ddywedodd wrth ei frodyr amdani, aethant i'w gasáu yn fwy fyth. Dywedodd wrthynt, “Gwrandewch, dyma'r freuddwyd a gefais: yr oeddem yn rhwymo ysgubau yn y maes, a dyma f'ysgub i yn codi ar ei sefyll, a daeth eich ysgubau chwi yn gylch o'i chwmpas ac ymgrymu i'm hysgub i.” Yna gofynnodd ei frodyr iddo, “Ai ti sydd i deyrnasu arnom? A fyddi di'n arglwydd arnom ni?” Ac aethant i'w gasáu ef yn fwy eto o achos ei freuddwydion a'i eiriau. Yna cafodd freuddwyd arall, ac adroddodd amdani wrth ei frodyr a dweud, “Cefais freuddwyd arall: dyna lle'r oedd yr haul a'r lleuad ac un seren ar ddeg yn ymgrymu i mi.” Wedi iddo ei hadrodd wrth ei dad a'i frodyr, ceryddodd ei dad ef, a dweud, “Beth yw'r freuddwyd hon a gefaist? A ddown ni, myfi a'th fam a'th frodyr, i ymgrymu i'r llawr i ti?” A chenfigennodd ei frodyr wrtho, ond cadwodd ei dad y peth yn ei gof. Yr oedd ei frodyr wedi mynd i fugeilio praidd eu tad ger Sichem. A dywedodd Israel wrth Joseff, “Onid yw dy frodyr yn bugeilio ger Sichem? Tyrd, fe'th anfonaf di atynt.” Atebodd yntau, “o'r gorau.” Yna dywedodd wrtho, “Dos i weld sut y mae dy frodyr a'r praidd, a thyrd â gair yn ôl i mi.” Felly anfonodd ef o ddyffryn Hebron, ac aeth tua Sichem. Cyfarfu gŵr ag ef pan oedd yn crwydro yn y fro, a gofyn iddo, “Beth wyt ti'n ei geisio?” Atebodd yntau, “Rwy'n ceisio fy mrodyr; dywed wrthyf ble maent yn bugeilio.” A dywedodd y gŵr, “Y maent wedi mynd oddi yma, oherwydd clywais hwy'n dweud, ‘Awn i Dothan.’ ” Felly aeth Joseff ar ôl ei frodyr, a chafodd hyd iddynt yn Dothan. Gwelsant ef o bell, a chyn iddo gyrraedd atynt gwnaethant gynllwyn i'w ladd, a dweud wrth ei gilydd, “Dacw'r breuddwydiwr hwnnw'n dod. Dewch, gadewch inni ei ladd a'i daflu i ryw bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ddifa; yna cawn weld beth a ddaw o'i freuddwydion.” Ond pan glywodd Reuben, achubodd ef o'u gafael a dweud, “Peidiwn â'i ladd.” Dywedodd Reuben wrthynt, “Peidiwch â thywallt gwaed; taflwch ef i'r pydew hwn sydd yn y diffeithwch, ond peidiwch â gwneud niwed iddo.” Dywedodd hyn er mwyn ei achub o'u gafael a'i ddwyn yn ôl at ei dad. A phan ddaeth Joseff at ei frodyr, tynasant ei wisg oddi arno, y wisg laes yr oedd yn ei gwisgo, a'i gymryd a'i daflu i'r pydew. Yr oedd y pydew yn wag, heb ddŵr ynddo. Tra oeddent yn eistedd i fwyta, codasant eu golwg a gweld cwmni o Ismaeliaid yn dod ar eu taith o Gilead, a'u camelod yn dwyn glud pêr, balm a myrr, i'w cludo i lawr i'r Aifft. A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, “Faint gwell fyddwn o ladd ein brawd a chelu ei waed? Dewch, gadewch inni ei werthu i'r Ismaeliaid; peidiwn â gwneud niwed iddo, oherwydd ein brawd ni a'n cnawd ydyw.” Cytunodd ei frodyr. Yna, pan ddaeth marchnatwyr o Midian heibio, codasant Joseff o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am ugain sicl o arian. Aethant hwythau â Joseff i'r Aifft.

Genesis 37:2-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Dyma genedlaethau Jacob. Joseff, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyda’i frodyr ar y praidd: a’r llanc oedd gyda meibion Bilha, a chyda meibion Silpa, gwragedd ei dad; a Joseff a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad. Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseff na’i holl feibion, oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siaced fraith iddo ef. A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr, hwy a’i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan ag ef yn heddychol. A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef eto yn ychwaneg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, atolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i. Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes; ac wele, fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymasant i’m hysgub i. A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant eto ei gasáu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau. Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymu i mi. Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymu i lawr i ti? A’i frodyr a genfigenasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth. A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem. Ac Israel a ddywedodd wrth Joseff, Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a’th anfonaf atynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi. A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych pa lwyddiant sydd i’th frodyr, a pha lwyddiant sydd i’r praidd; a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem. A chyfarfu gŵr ag ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a’r gŵr a ymofynnodd ag ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio? Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, atolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio? A’r gŵr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr, ac a’u cafodd hwynt yn Dothan. Hwythau a’i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gyd-fwriadasant yn ei erbyn ef, i’w ladd ef. A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod. Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a’i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef. A Reuben a glybu, ac a’i hachubodd ef o’u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef. Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i’r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno: fel yr achubai ef o’u llaw hwynt, i’w ddwyn eilwaith at ei dad. A bu, pan ddaeth Joseff at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff, sef y siaced fraith ydoedd amdano ef. A chymerasant ef, a thaflasant i bydew: a’r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo. A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i’r Aifft, a’u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr. A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef? Deuwch, a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef; oblegid ein brawd ni a’n cnawd ydyw efe. A’i frodyr a gytunasant. A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio, y tynasant ac y cyfodasant Joseff i fyny o’r pydew, ac a werthasant Joseff i’r Ismaeliaid er ugain darn o arian: hwythau a ddygasant Joseff i’r Aifft.