Genesis 32:9-12
Genesis 32:9-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gweddïodd Jacob, “O Dduw fy nhaid Abraham a’m tad Isaac. Ti ydy’r ARGLWYDD ddwedodd wrtho i, ‘Dos yn ôl i dy wlad dy hun at dy deulu. Bydda i’n dda i ti.’ Dw i’n neb, a ddim yn haeddu’r ffaith dy fod ti wedi bod mor hael a ffyddlon i’r addewid wnest ti i dy was. Doedd gen i ddim byd ond ffon pan es i oddi cartref a chroesi afon Iorddonen. Bellach mae digon ohonon ni i rannu’n ddau grŵp. Plîs wnei di’n achub i o afael fy mrawd Esau? Mae gen i ofn iddo ymosod arna i, a lladd y gwragedd a’r plant. Rwyt ti wedi dweud, ‘Bydda i wir yn dda i ti. Bydd dy ddisgynyddion di fel tywod y môr – yn gwbl amhosib i’w cyfri!’”
Genesis 32:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dywedodd Jacob, “O Dduw fy nhadau, Duw Abraham a Duw Isaac, O ARGLWYDD, dywedaist wrthyf, ‘Dos yn ôl i'th wlad ac at dy dylwyth, a gwnaf i ti ddaioni.’ Nid wyf yn deilwng o gwbl o'r holl ymlyniad a'r holl ffyddlondeb a ddangosaist tuag at dy was; oherwydd deuthum dros yr Iorddonen hon heb ddim ond fy ffon, ond yn awr yr wyf yn ddau wersyll. Achub fi o law fy mrawd, o law Esau; y mae arnaf ei ofn, rhag iddo ddod a'n lladd, yn famau a phlant. Yr wyt ti wedi addo, ‘Yn ddiau gwnaf ddaioni i ti, a bydd dy hil fel tywod y môr, sy'n rhy niferus i'w rifo.’ ”
Genesis 32:9-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd Jacob, O DDUW fy nhad Abraham, a DUW fy nhad Isaac, O ARGLWYDD, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti! Ni ryglyddais y lleiaf o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd a wnaethost â’th was: oblegid â’m ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai. Achub fi, atolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod ohono a’m taro, a’r fam gyda’r plant. A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau; a’th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.