Genesis 32:24-28
Genesis 32:24-28 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Roedd Jacob ar ei ben ei hun. A dyma ddyn yn dod ac yn reslo gydag e nes iddi wawrio. Pan welodd y dyn nad oedd e’n ennill, dyma fe’n taro Jacob yn ei glun a’i rhoi o’i lle. “Gad i mi fynd,” meddai’r dyn, “mae hi’n dechrau gwawrio.” “Na!” meddai Jacob, “Wna i ddim gadael i ti fynd nes i ti fy mendithio i.” Felly dyma’r dyn yn gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Jacob,” meddai. A dyma’r dyn yn dweud wrtho, “Fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di. Am dy fod ti wedi reslo gyda Duw a phobl, ac wedi ennill.”
Genesis 32:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr. Pan welodd y gŵr nad oedd yn cael y trechaf arno, trawodd wasg ei glun, a datgysylltwyd clun Jacob wrth iddo ymgodymu ag ef. Yna dywedodd y gŵr, “Gollwng fi, oherwydd y mae'n gwawrio.” Ond atebodd yntau, “Ni'th ollyngaf heb iti fy mendithio.” “Beth yw d'enw?” meddai ef. Ac atebodd yntau, “Jacob.” Yna dywedodd, “Ni'th elwir Jacob mwyach, ond Israel, oherwydd yr wyt wedi ymdrechu â Duw a dynion, ac wedi gorchfygu.”
Genesis 32:24-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi’r wawr. A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef. A’r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni’th ollyngaf, oni’m bendithi. Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob. Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda DUW fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist.