Genesis 32:22-32
Genesis 32:22-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn ystod y noson honno cododd Jacob a chymryd ei ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un mab ar ddeg, a chroesi rhyd Jabboc. Wedi iddo'u cymryd a'u hanfon dros yr afon, anfonodd ei eiddo drosodd hefyd. Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr. Pan welodd y gŵr nad oedd yn cael y trechaf arno, trawodd wasg ei glun, a datgysylltwyd clun Jacob wrth iddo ymgodymu ag ef. Yna dywedodd y gŵr, “Gollwng fi, oherwydd y mae'n gwawrio.” Ond atebodd yntau, “Ni'th ollyngaf heb iti fy mendithio.” “Beth yw d'enw?” meddai ef. Ac atebodd yntau, “Jacob.” Yna dywedodd, “Ni'th elwir Jacob mwyach, ond Israel, oherwydd yr wyt wedi ymdrechu â Duw a dynion, ac wedi gorchfygu.” A gofynnodd Jacob iddo, “Dywed imi dy enw.” Ond dywedodd yntau, “Pam yr wyt yn gofyn fy enw?” A bendithiodd ef yno. Felly enwodd Jacob y lle Penuel, a dweud, “Gwelais Dduw wyneb yn wyneb, ond arbedwyd fy mywyd.” Cododd yr haul arno fel yr oedd yn mynd heibio i Penuel, ac yr oedd yn gloff o'i glun. Dyna pam nad yw plant Israel yn bwyta giewyn gwasg y glun hyd heddiw, oherwydd trawo gwasg clun Jacob i fyw y giewyn.
Genesis 32:22-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a gyfododd y noson honno, ac a gymerth ei ddwy wraig, a’i ddwy lawforwyn, a’i un mab ar ddeg, ac a aeth dros ryd Jabboc. Ac a’u cymerth hwynt, ac a’u trosglwyddodd trwy’r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo. A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi’r wawr. A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef. A’r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni’th ollyngaf, oni’m bendithi. Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob. Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda DUW fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist. A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a’i bendithiodd ef. A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais DDUW wyneb yn wyneb, a dihangodd fy einioes. A’r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o’i glun. Am hynny plant Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cyswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chyswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.