Genesis 32:22-30
Genesis 32:22-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn ystod y nos dyma Jacob yn codi a chroesi rhyd Jabboc gyda’i ddwy wraig, ei ddwy forwyn a’i un deg un mab. Ar ôl mynd â nhw ar draws, dyma fe’n anfon pawb a phopeth arall oedd ganddo drosodd. Roedd Jacob ar ei ben ei hun. A dyma ddyn yn dod ac yn reslo gydag e nes iddi wawrio. Pan welodd y dyn nad oedd e’n ennill, dyma fe’n taro Jacob yn ei glun a’i rhoi o’i lle. “Gad i mi fynd,” meddai’r dyn, “mae hi’n dechrau gwawrio.” “Na!” meddai Jacob, “Wna i ddim gadael i ti fynd nes i ti fy mendithio i.” Felly dyma’r dyn yn gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Jacob,” meddai. A dyma’r dyn yn dweud wrtho, “Fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di. Am dy fod ti wedi reslo gyda Duw a phobl, ac wedi ennill.” Gofynnodd Jacob iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Pam wyt ti’n gofyn am fy enw i?” meddai’r dyn. Ac wedyn dyma fe’n bendithio Jacob yn y fan honno. Felly galwodd Jacob y lle yn Peniel. “Dw i wedi gweld Duw wyneb yn wyneb,” meddai, “a dw i’n dal yn fyw!”
Genesis 32:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn ystod y noson honno cododd Jacob a chymryd ei ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un mab ar ddeg, a chroesi rhyd Jabboc. Wedi iddo'u cymryd a'u hanfon dros yr afon, anfonodd ei eiddo drosodd hefyd. Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr. Pan welodd y gŵr nad oedd yn cael y trechaf arno, trawodd wasg ei glun, a datgysylltwyd clun Jacob wrth iddo ymgodymu ag ef. Yna dywedodd y gŵr, “Gollwng fi, oherwydd y mae'n gwawrio.” Ond atebodd yntau, “Ni'th ollyngaf heb iti fy mendithio.” “Beth yw d'enw?” meddai ef. Ac atebodd yntau, “Jacob.” Yna dywedodd, “Ni'th elwir Jacob mwyach, ond Israel, oherwydd yr wyt wedi ymdrechu â Duw a dynion, ac wedi gorchfygu.” A gofynnodd Jacob iddo, “Dywed imi dy enw.” Ond dywedodd yntau, “Pam yr wyt yn gofyn fy enw?” A bendithiodd ef yno. Felly enwodd Jacob y lle Penuel, a dweud, “Gwelais Dduw wyneb yn wyneb, ond arbedwyd fy mywyd.”
Genesis 32:22-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a gyfododd y noson honno, ac a gymerth ei ddwy wraig, a’i ddwy lawforwyn, a’i un mab ar ddeg, ac a aeth dros ryd Jabboc. Ac a’u cymerth hwynt, ac a’u trosglwyddodd trwy’r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo. A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi’r wawr. A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef. A’r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni’th ollyngaf, oni’m bendithi. Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob. Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda DUW fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist. A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a’i bendithiodd ef. A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais DDUW wyneb yn wyneb, a dihangodd fy einioes.