Genesis 3:8-13
Genesis 3:8-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma nhw’n clywed sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn mynd drwy’r ardd pan oedd gwynt yn dechrau codi. A dyma’r dyn a’i wraig yn mynd i guddio o olwg yr ARGLWYDD Dduw, i ganol y coed yn yr ardd. Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a gofyn iddo, “Ble wyt ti?” Atebodd y dyn, “Rôn i’n clywed dy sŵn di yn yr ardd, ac roedd arna i ofn am fy mod i’n noeth. Felly dyma fi’n cuddio.” “Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di’n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddwedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?” Ac meddai’r dyn, “Y wraig wnest ti ei rhoi i fod gyda mi – hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fi’n ei fwyta.” Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw i’r wraig, “Be ti’n feddwl ti’n wneud?” A dyma’r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.”
Genesis 3:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A chlywsant sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn rhodio yn yr ardd gyda hwyr y dydd, ac ymguddiodd y dyn a'i wraig o olwg yr ARGLWYDD Dduw ymysg coed yr ardd. Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, “Ble'r wyt ti?” Atebodd yntau, “Clywais dy sŵn yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais.” Dywedodd yntau, “Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o'r pren y gorchmynnais iti beidio â bwyta ohono?” A dywedodd y dyn, “Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, “Pam y gwnaethost hyn?” A dywedodd y wraig, “Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau.”
Genesis 3:8-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a glywsant lais yr ARGLWYDD DDUW yn rhodio yn yr ardd, gydag awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a’i wraig o olwg yr ARGLWYDD DDUW, ymysg prennau yr ardd. A’r ARGLWYDD DDUW a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti? Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais. A dywedodd DUW, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o’r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist? Ac Adda a ddywedodd, Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a mi a fwyteais. A’r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A’r wraig a ddywedodd, Y sarff a’m twyllodd, a bwyta a wneuthum.