Genesis 3:4-6
Genesis 3:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond dywedodd y sarff wrth y wraig, “Na! ni fyddwch farw; ond fe ŵyr Duw yr agorir eich llygaid y dydd y bwytewch ohono, a byddwch fel Duw yn gwybod da a drwg.” A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a'i fod yn deg i'r golwg ac yn bren i'w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o'i ffrwyth a'i fwyta, a'i roi hefyd i'w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau.
Genesis 3:4-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma’r neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw. Mae Duw yn gwybod y byddwch chi’n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni. Byddwch chi’n gwybod am bopeth – da a drwg – fel Duw ei hun.” Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i’w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi’n cymryd peth o’i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i’w gŵr oedd gyda hi, a dyma fe’n bwyta hefyd.
Genesis 3:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim. Canys gwybod y mae DUW, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg. A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o’i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd.