Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 3:1-13

Genesis 3:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall roedd yr ARGLWYDD Dduw wedi’u creu. A dyma’r neidr yn dweud wrth y wraig, “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?” “Na,” meddai’r wraig, “dŷn ni’n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd. Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a pheidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’” Ond dyma’r neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw. Mae Duw yn gwybod y byddwch chi’n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni. Byddwch chi’n gwybod am bopeth – da a drwg – fel Duw ei hun.” Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i’w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi’n cymryd peth o’i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i’w gŵr oedd gyda hi, a dyma fe’n bwyta hefyd. Yn sydyn roedden nhw’n gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhw’n noeth. Felly dyma nhw’n rhwymo dail coeden ffigys at ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw’u hunain. Yna dyma nhw’n clywed sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn mynd drwy’r ardd pan oedd gwynt yn dechrau codi. A dyma’r dyn a’i wraig yn mynd i guddio o olwg yr ARGLWYDD Dduw, i ganol y coed yn yr ardd. Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a gofyn iddo, “Ble wyt ti?” Atebodd y dyn, “Rôn i’n clywed dy sŵn di yn yr ardd, ac roedd arna i ofn am fy mod i’n noeth. Felly dyma fi’n cuddio.” “Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di’n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddwedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?” Ac meddai’r dyn, “Y wraig wnest ti ei rhoi i fod gyda mi – hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fi’n ei fwyta.” Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw i’r wraig, “Be ti’n feddwl ti’n wneud?” A dyma’r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.”

Genesis 3:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na'r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. A dywedodd wrth y wraig, “A yw Duw yn wir wedi dweud, ‘Ni chewch fwyta o'r un o goed yr ardd’?” Dywedodd y wraig wrth y sarff, “Cawn fwyta o ffrwyth coed yr ardd, ond am ffrwyth y goeden sydd yng nghanol yr ardd dywedodd Duw, ‘Peidiwch â bwyta ohono, na chyffwrdd ag ef, rhag ichwi farw.’ ” Ond dywedodd y sarff wrth y wraig, “Na! ni fyddwch farw; ond fe ŵyr Duw yr agorir eich llygaid y dydd y bwytewch ohono, a byddwch fel Duw yn gwybod da a drwg.” A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a'i fod yn deg i'r golwg ac yn bren i'w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o'i ffrwyth a'i fwyta, a'i roi hefyd i'w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. Yna agorwyd eu llygaid hwy ill dau i wybod eu bod yn noeth, a gwnïasant ddail ffigysbren i wneud ffedogau iddynt eu hunain. A chlywsant sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn rhodio yn yr ardd gyda hwyr y dydd, ac ymguddiodd y dyn a'i wraig o olwg yr ARGLWYDD Dduw ymysg coed yr ardd. Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, “Ble'r wyt ti?” Atebodd yntau, “Clywais dy sŵn yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais.” Dywedodd yntau, “Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o'r pren y gorchmynnais iti beidio â bwyta ohono?” A dywedodd y dyn, “Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, “Pam y gwnaethost hyn?” A dywedodd y wraig, “Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau.”

Genesis 3:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr ARGLWYDD DDUW. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o DDUW, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd? A’r wraig a ddywedodd wrth y sarff, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta: Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, DUW a ddywedodd, Na fwytewch ohono, ac na chyffyrddwch ag ef, rhag eich marw. A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim. Canys gwybod y mae DUW, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg. A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o’i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd. A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau. A hwy a glywsant lais yr ARGLWYDD DDUW yn rhodio yn yr ardd, gydag awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a’i wraig o olwg yr ARGLWYDD DDUW, ymysg prennau yr ardd. A’r ARGLWYDD DDUW a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti? Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais. A dywedodd DUW, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o’r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist? Ac Adda a ddywedodd, Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a mi a fwyteais. A’r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A’r wraig a ddywedodd, Y sarff a’m twyllodd, a bwyta a wneuthum.