Genesis 28:10-17
Genesis 28:10-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn y cyfamser, roedd Jacob wedi gadael Beersheba i fynd i Haran. Daeth i le arbennig a phenderfynu aros yno dros nos, am fod yr haul wedi machlud. Cymerodd gerrig oedd yno a’u gosod o gwmpas ei ben a gorwedd i lawr i gysgu. Cafodd freuddwyd. Roedd yn gweld grisiau yn codi’r holl ffordd o’r ddaear i’r nefoedd, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac i lawr y grisiau, a’r ARGLWYDD yn sefyll ar dop y grisiau. “Fi ydy’r ARGLWYDD – Duw Abraham dy daid ac Isaac dy dad,” meddai. “Dw i’n mynd i roi’r wlad yma lle rwyt ti’n gorwedd i ti a dy ddisgynyddion. Bydd gen ti ddisgynyddion i bob cyfeiriad – gogledd, de, gorllewin a dwyrain. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti a dy ddisgynyddion. Dw i eisiau i ti wybod y bydda i gyda ti. Bydda i’n dy amddiffyn ble bynnag ei di, ac yn dod â ti’n ôl yma. Wna i ddim dy adael di. Bydda i’n gwneud beth dw i wedi’i addo i ti.” Dyma Jacob yn deffro. “Mae’n rhaid bod yr ARGLWYDD yma,” meddai, “a doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny.” Roedd e wedi dychryn, “Am le rhyfeddol! Mae Duw yn byw yma! Mae fel giât i mewn i’r nefoedd!”
Genesis 28:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymadawodd Jacob â Beerseba a theithio tua Haran. A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno. Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a'i phen yn cyrraedd i'r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi. A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i'th ddisgynyddion; bydd dy hil fel llwch y ddaear, a byddi'n ymestyn i'r gorllewin a'r dwyrain ac i'r gogledd a'r de; a bendithir holl deuluoedd y ddaear ynot ti ac yn dy ddisgynyddion. Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof â thi'n ôl i'r wlad hon; oherwydd ni'th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais.” Pan ddeffrôdd Jacob o'i gwsg, dywedodd, “Y mae'n sicr fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac ni wyddwn i.” A daeth arno ofn, ac meddai, “Mor ofnadwy yw'r lle hwn! Nid yw'n ddim amgen na thŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.”
Genesis 28:10-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Jacob a aeth allan o Beer-seba, ac a aeth tua Haran. Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a letyodd yno dros nos; oblegid machludo’r haul: ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno. Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele angylion DUW yn dringo ac yn disgyn ar hyd-ddi. Ac wele yr ARGLWYDD yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw ARGLWYDD DDUW Abraham dy dad, a DUW Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had. A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r deau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di. Ac wele fi gyda thi; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon: oherwydd ni’th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt. A Jacob a ddeffrôdd o’i gwsg; ac a ddywedodd, Diau fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i. Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw’r lle hwn! nid oes yma onid tŷ i DDUW, a dyma borth y nefoedd.