Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 27:1-17

Genesis 27:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan oedd Isaac yn hen a'i lygaid wedi pylu fel nad oedd yn gweld, galwodd ar Esau ei fab hynaf, a dweud wrtho, “Fy mab.” Atebodd yntau, “Dyma fi.” A dywedodd Isaac, “Yr wyf wedi mynd yn hen, ac ni wn pa ddiwrnod y byddaf farw. Cymer yn awr dy arfau, dy gawell saethau a'th fwa, a dos i'r maes i hela bwyd i mi, a gwna i mi y lluniaeth blasus sy'n hoff gennyf, a thyrd ag ef imi i'w fwyta; yna bendithiaf di cyn imi farw.” Yr oedd Rebeca yn gwrando ar Isaac yn siarad â'i fab Esau. A phan aeth Esau i'r maes i hela bwyd i ddod ag ef i'w dad, dywedodd Rebeca wrth ei mab Jacob, “Clywais dy dad yn siarad â'th frawd Esau ac yn dweud, ‘Tyrd â helfa imi, a gwna luniaeth blasus imi i'w fwyta; yna bendithiaf di gerbron yr ARGLWYDD cyn imi farw.’ Gwrando'n awr, fy mab, ar yr hyn a orchmynnaf i ti. Dos i blith y praidd, a thyrd â dau fyn gafr da i mi, a gwnaf finnau hwy yn lluniaeth blasus i'th dad, o'r math y mae'n ei hoffi, a chei dithau fynd ag ef i'th dad i'w fwyta, er mwyn iddo dy fendithio di cyn iddo farw.” Ond dywedodd Jacob wrth ei fam Rebeca, “Ond y mae Esau yn ŵr blewog, a minnau'n ŵr llyfn. Efallai y bydd fy nhad yn fy nheimlo, a byddaf fel twyllwr yn ei olwg, a dof â melltith arnaf fy hun yn lle bendith.” Meddai ei fam wrtho, “Arnaf fi y bo dy felltith, fy mab; gwrando arnaf, dos a thyrd â'r geifr ataf.” Felly aeth, a dod â hwy at ei fam; a gwnaeth ei fam luniaeth blasus, o'r math yr oedd ei dad yn ei hoffi. Yna cymerodd Rebeca ddillad gorau ei mab hynaf Esau, dillad oedd gyda hi yn y tŷ, a'u gwisgo am Jacob ei mab ieuengaf; a gwisgodd hefyd grwyn y geifr am ei ddwylo ac am ei wegil llyfn; yna rhoddodd i'w mab Jacob y lluniaeth blasus a'r bara yr oedd wedi eu paratoi.

Genesis 27:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd Isaac yn hen ddyn ac yn dechrau mynd yn ddall. Dyma fe’n galw Esau, ei fab hynaf ato, a dweud, “Gwranda, dw i wedi mynd yn hen, a gallwn i farw unrhyw bryd. Cymer dy fwa, a chawell o saethau, a dos allan i hela i mi. Wedyn dw i am i ti baratoi y math o fwyd blasus dw i’n ei hoffi, i mi gael bwyta. Dw i wir eisiau dy fendithio di cyn i mi farw.” Tra oedd Isaac yn dweud hyn wrth Esau, roedd Rebeca wedi bod yn gwrando. Felly pan aeth Esau allan i hela dyma Rebeca’n mynd at Jacob a dweud wrtho, “Dw i newydd glywed dy dad yn dweud wrth Esau dy frawd, ‘Dos allan i hela a gwneud bwyd blasus i mi ei fwyta. Wedyn gwna i dy fendithio di o flaen yr ARGLWYDD cyn i mi farw.’ Felly gwna yn union fel dw i’n dweud. Dewis ddau fyn gafr da i mi o’r praidd. Gwna i eu coginio a gwneud pryd blasus i dy dad – y math o fwyd mae’n ei hoffi. Cei di fynd â’r bwyd i dy dad iddo’i fwyta. Wedyn bydd e’n dy fendithio di cyn iddo farw.” “Ond mae Esau yn flewog i gyd,” meddai Jacob wrth ei fam. “Croen meddal sydd gen i. Os gwnaiff dad gyffwrdd fi bydd yn gweld fy mod i’n ceisio ei dwyllo. Bydda i’n dod â melltith arna i fy hun yn lle bendith.” Ond dyma’i fam yn dweud, “Gad i’r felltith ddod arna i. Gwna di beth dw i’n ddweud. Dos i nôl y geifr.” Felly aeth Jacob i nôl y geifr, a dod â nhw i’w fam. A dyma’i fam yn eu coginio nhw, a gwneud y math o fwyd blasus roedd Isaac yn ei hoffi. Roedd dillad gorau Esau, ei mab hynaf, yn y tŷ gan Rebeca. Dyma hi’n eu cymryd nhw a gwneud i Jacob, ei mab ifancaf, eu gwisgo nhw. Wedyn dyma hi’n cymryd crwyn y myn geifr a’u rhoi nhw ar ddwylo a gwddf Jacob. Yna dyma hi’n rhoi’r bwyd blasus, gyda bara roedd hi wedi’i bobi, i’w mab Jacob.

Genesis 27:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw ohono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi. Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth. Ac yn awr cymer, atolwg, dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa. A gwna i mi flasusfwyd o’r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwytawyf; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw. A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i’r maes, i hela helfa i’w dwyn. A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd, Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasusfwyd, fel y bwytawyf, ac y’th fendithiwyf gerbron yr ARGLWYDD cyn fy marw. Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchmynnaf i ti. Dos yn awr i’r praidd, a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da; a mi a’u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i’th dad, o’r fath a gâr efe. A thi a’u dygi i’th dad, fel y bwytao, ac y’th fendithio cyn ei farw. A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam, Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog, a minnau yn ŵr llyfn: Fy nhad, ond odid, a’m teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felltith, ac nid bendith. A’i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felltith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi. Ac efe a aeth, ac a gymerth y mynnod, ac a’u dygodd at ei fam: a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef. Rebeca hefyd a gymerodd hoff wisgoedd Esau ei mab hynaf, y rhai oedd gyda hi yn tŷ, ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf. A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef, ac am lyfndra ei wddf ef: Ac a roddes y bwyd blasus, a’r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.