Genesis 24:2-4
Genesis 24:2-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un diwrnod dyma Abraham yn dweud wrth ei brif was (sef yr un oedd yn gyfrifol am bopeth oedd ganddo), “Dw i am i ti fynd ar dy lw, ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, Duw’r nefoedd a’r ddaear, na fyddi di’n cymryd un o ferched Canaan i fod yn wraig i’m mab i. Dw i eisiau i ti fynd i’m gwlad i, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i Isaac.”
Genesis 24:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Abraham wrth y gwas hynaf yn ei dŷ, yr un oedd yn gofalu am ei holl eiddo, “Gosod dy law dan fy nghlun, a pharaf iti dyngu i'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na chymeri wraig i'm mab o ferched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu plith, ond yr ei i'm gwlad ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab Isaac.”
Genesis 24:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd: A mi a baraf i ti dyngu i ARGLWYDD DDUW y nefoedd, a DUW y ddaear, na chymerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg: Ond i’m gwlad i yr ei, ac at fy nghenedl i yr ei di, ac a gymeri wraig i’m mab Isaac.