Genesis 22:1-5
Genesis 22:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Beth amser wedyn dyma Duw yn rhoi Abraham ar brawf. “Abraham!” meddai Duw. “Ie? Dyma fi,” atebodd Abraham. Ac meddai Duw wrtho, “Plîs, cymer dy fab Isaac – yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti’n ei garu – a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm ar un o’r mynyddoedd. Bydda i’n dangos i ti pa un.” Dyma Abraham yn codi’n fore, torri coed ar gyfer llosgi’r offrwm, a’u rhoi ar gefn ei asyn. Aeth â dau o’i weision ifanc gydag e, a hefyd ei fab, Isaac. A dechreuodd ar y daith i ble roedd Duw wedi dweud wrtho. Ar ôl teithio am ddeuddydd, roedd Abraham yn gweld pen y daith yn y pellter. Dwedodd wrth ei weision, “Arhoswch chi yma gyda’r asyn tra bydda i a’r bachgen yn mynd draw acw. Dŷn ni’n mynd i addoli Duw, ac wedyn down ni’n ôl atoch chi.”
Genesis 22:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi'r pethau hyn, rhoddodd Duw brawf ar Abraham. “Abraham,” meddai wrtho, ac atebodd yntau, “Dyma fi.” Yna dywedodd, “Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy'n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar y mynydd a ddangosaf iti.” Felly cododd Abraham yn fore, cyfrwyodd ei asyn, a chymryd dau lanc gydag ef, a'i fab Isaac; a holltodd goed i'r poethoffrwm, a chychwynnodd i'r lle y dywedodd Duw wrtho. Ar y trydydd dydd cododd Abraham ei olwg, a gwelodd y lle o hirbell. Yna dywedodd Abraham wrth ei lanciau, “Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; mi af finnau a'r bachgen draw ac addoli, ac yna dychwelwn atoch.”
Genesis 22:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi’r pethau hyn y bu i DDUW brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. Yna y dywedodd DUW, Cymer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt. Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai DUW wrtho. Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai’r lle o hirbell. Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau, Arhoswch chwi yma gyda’r asyn; a mi a’r llanc a awn hyd acw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn atoch.