Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 22:1-19

Genesis 22:1-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Beth amser wedyn dyma Duw yn rhoi Abraham ar brawf. “Abraham!” meddai Duw. “Ie? Dyma fi,” atebodd Abraham. Ac meddai Duw wrtho, “Plîs, cymer dy fab Isaac – yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti’n ei garu – a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm ar un o’r mynyddoedd. Bydda i’n dangos i ti pa un.” Dyma Abraham yn codi’n fore, torri coed ar gyfer llosgi’r offrwm, a’u rhoi ar gefn ei asyn. Aeth â dau o’i weision ifanc gydag e, a hefyd ei fab, Isaac. A dechreuodd ar y daith i ble roedd Duw wedi dweud wrtho. Ar ôl teithio am ddeuddydd, roedd Abraham yn gweld pen y daith yn y pellter. Dwedodd wrth ei weision, “Arhoswch chi yma gyda’r asyn tra bydda i a’r bachgen yn mynd draw acw. Dŷn ni’n mynd i addoli Duw, ac wedyn down ni’n ôl atoch chi.” Dyma Abraham yn rhoi’r coed ar gefn ei fab, Isaac. Wedyn cymerodd y tân a’r gyllell, ac aeth y ddau yn eu blaenau gyda’i gilydd. “Dad,” meddai Isaac wrth Abraham. “Ie, machgen i?” meddai Abraham. “Dad, mae gen ti dân a choed ar gyfer llosgi’r offrwm, ond ble mae’r oen sydd i gael ei aberthu?” “Bydd Duw ei hun yn gwneud yn siŵr fod oen gynnon ni i’w aberthu, machgen i,” meddai Abraham. Felly dyma’r ddau yn mynd yn eu blaenau gyda’i gilydd. Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe’n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor. Gafaelodd Abraham yn y gyllell, ac roedd ar fin lladd ei fab. Ond dyma angel yr ARGLWYDD yn galw arno o’r nefoedd, “Abraham! Abraham!” “Ie? Dyma fi,” meddai Abraham. “Paid cyffwrdd y bachgen, na gwneud dim byd iddo. Dw i’n gwybod bellach dy fod ti’n ddyn sy’n parchu Duw. Roeddet ti hyd yn oed yn fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti.” Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a’i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab. Galwodd Abraham y lle yn “Yr ARGLWYDD sy’n darparu”. Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae’r ARGLWYDD yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd.” Dyma angel yr ARGLWYDD yn galw ar Abraham eto. “Mae’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i’n addo hyn ar fy llw: Am dy fod ti wedi gwneud beth wnest ti (roeddet ti’n fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti), dw i’n mynd i dy fendithio di go iawn a rhoi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr. Byddan nhw fel y tywod ar lan y môr. Byddan nhw’n concro dinasoedd eu gelynion. Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio, am dy fod ti wedi gwneud beth ddwedais i.’” Felly, aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw’n teithio gyda’i gilydd i Beersheba, lle gwnaeth Abraham setlo.

Genesis 22:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi'r pethau hyn, rhoddodd Duw brawf ar Abraham. “Abraham,” meddai wrtho, ac atebodd yntau, “Dyma fi.” Yna dywedodd, “Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy'n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar y mynydd a ddangosaf iti.” Felly cododd Abraham yn fore, cyfrwyodd ei asyn, a chymryd dau lanc gydag ef, a'i fab Isaac; a holltodd goed i'r poethoffrwm, a chychwynnodd i'r lle y dywedodd Duw wrtho. Ar y trydydd dydd cododd Abraham ei olwg, a gwelodd y lle o hirbell. Yna dywedodd Abraham wrth ei lanciau, “Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; mi af finnau a'r bachgen draw ac addoli, ac yna dychwelwn atoch.” Cymerodd goed y poethoffrwm a'u gosod ar ei fab Isaac; a chymerodd y tân a'r gyllell yn ei law ei hun. Ac felly yr aethant ill dau ynghyd. Yna dywedodd Isaac wrth ei dad Abraham, “Fy nhad.” Atebodd yntau, “Ie, fy mab?” Ac meddai Isaac, “Dyma'r tân a'r coed; ond ble mae oen y poethoffrwm?” Dywedodd Abraham, “Duw ei hun fydd yn darparu oen y poethoffrwm, fy mab.” Ac felly aethant ill dau gyda'i gilydd. Wedi iddynt gyrraedd i'r lle'r oedd Duw wedi dweud wrtho, adeiladodd Abraham allor, trefnodd y coed, a rhwymodd ei fab Isaac a'i osod ar yr allor, ar ben y coed. Yna estynnodd Abraham ei law, a chymryd y gyllell i ladd ei fab. Ond galwodd angel yr ARGLWYDD arno o'r nef, a dweud, “Abraham! Abraham!” Dywedodd yntau, “Dyma fi.” A dywedodd, “Paid â gosod dy law ar y bachgen, na gwneud dim iddo; oherwydd gwn yn awr dy fod yn ofni Duw, gan nad wyt wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.” Cododd Abraham ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd hwrdd y tu ôl iddo wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn drysni; aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a'i offrymu yn boethoffrwm yn lle ei fab. Ac enwodd Abraham y lle hwnnw, “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”; fel y dywedir hyd heddiw, “Ar fynydd yr ARGLWYDD fe ddarperir.” Galwodd angel yr ARGLWYDD eilwaith o'r nef ar Abraham, a dweud, “Tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd iti wneud hyn, heb wrthod rhoi dy fab, dy unig fab, bendithiaf di yn fawr, ac amlhau dy ddisgynyddion yn ddirfawr, fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr. Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu pyrth eu gelynion, a thrwyddynt bendithir holl genhedloedd y ddaear, am iti ufuddhau i'm llais.” Yna dychwelodd Abraham at ei lanciau ac aethant gyda'i gilydd i Beerseba; ac arhosodd Abraham yn Beerseba.

Genesis 22:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wedi’r pethau hyn y bu i DDUW brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. Yna y dywedodd DUW, Cymer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt. Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai DUW wrtho. Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai’r lle o hirbell. Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau, Arhoswch chwi yma gyda’r asyn; a mi a’r llanc a awn hyd acw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn atoch. Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm, ac a’i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymerodd y tân, a’r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd. A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poethoffrwm? Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, DUW a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd: Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai DUW wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed. Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab; Ac angel yr ARGLWYDD a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni DUW, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi. Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab. Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH-jire; fel y dywedir heddiw, Ym mynydd yr ARGLWYDD y gwelir. Ac angel yr ARGLWYDD a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd; Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr ARGLWYDD, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nad ateliaist dy fab, dy unig fab: Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau yr amlhaf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion; Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrando ohonot ar fy llais i. Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer-seba: ac Abraham a drigodd yn Beer-seba.