Genesis 20:6-7
Genesis 20:6-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma Duw yn ei ateb, “Ie, dw i’n gwybod dy fod ti’n ddiniwed. Fi gadwodd di rhag pechu yn fy erbyn. Wnes i ddim gadael i ti ei chyffwrdd hi. Felly, rho’r wraig yn ôl i’w gŵr. Mae e’n broffwyd. Bydd e’n gweddïo drosot ti, a chei di fyw. Ond os nad wyt ti’n fodlon mynd â hi yn ôl, rhaid i ti ddeall y byddi di a dy bobl yn marw.”
Genesis 20:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Duw wrtho yn y freuddwyd, “Mi wn iti wneud hyn â chydwybod dawel; cedwais innau di rhag pechu yn f'erbyn, a dyna pam na adewais iti ei chyffwrdd. Yn awr, rho'r wraig yn ôl i'w gŵr, oherwydd proffwyd yw ac fe weddïa trosot, fel y byddi fyw. Ond os na roi hi'n ôl, deall di y byddi'n siŵr o farw, ti a'th dylwyth.”
Genesis 20:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd DUW wrtho ef, mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a’th ateliais rhag pechu i’m herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi. Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i’r gŵr; oherwydd proffwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddiau, ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti.