Genesis 20:1-2
Genesis 20:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymdeithiodd Abraham oddi yno i ardal y Negef, a byw rhwng Cades a Sur. Arhosodd dros dro yn Gerar, ac yno dywedodd Abraham am ei wraig Sara, “Fy chwaer yw hi”; ac anfonodd Abimelech brenin Gerar am Sara, a'i chymryd.
Rhanna
Darllen Genesis 20Genesis 20:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Symudodd Abraham i’r de i gyfeiriad y Negef, a buodd yn byw rhwng Cadesh a Shwr. Pan oedd yn crwydro am gyfnod yn ardal Gerar dwedodd wrth bobl mai ei chwaer oedd Sara, ei wraig. A dyma Abimelech, brenin Gerar, yn anfon amdani i’w chymryd iddo’i hun.
Rhanna
Darllen Genesis 20