Genesis 2:7-9
Genesis 2:7-9 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o’r pridd. Wedyn chwythodd i’w ffroenau yr anadl sy’n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw. Yna dyma’r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua’r dwyrain, yn Eden, a rhoi’r dyn roedd wedi’i siapio yno. Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o’r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i’w bwyta. Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy’n rhoi bywyd a’r goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg.
Genesis 2:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw. A phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio. A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd, a phren gwybodaeth da a drwg.
Genesis 2:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD DDUW a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw. Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a blannodd ardd yn Eden, o du’r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe. A gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW i bob pren dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o’r ddaear.