Genesis 2:4-25
Genesis 2:4-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu: Pan wnaeth Duw y bydysawd, doedd dim planhigion gwyllt na llysiau yn tyfu ar y tir. Doedd Duw ddim eto wedi gwneud iddi lawio, a doedd neb chwaith i weithio ar y tir. Ond roedd dŵr yn codi o’r ddaear ac yn dyfrio wyneb y tir. Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o’r pridd. Wedyn chwythodd i’w ffroenau yr anadl sy’n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw. Yna dyma’r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua’r dwyrain, yn Eden, a rhoi’r dyn roedd wedi’i siapio yno. Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o’r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i’w bwyta. Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy’n rhoi bywyd a’r goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio’r ardd. Wedyn roedd yn rhannu’n bedair cangen. Pison ydy enw un. Mae hi’n llifo o gwmpas gwlad Hafila, lle mae aur – aur pur iawn, ac mae perlau ac onics yno hefyd. Gihon ydy enw’r ail afon. Mae hi yn llifo o gwmpas gwlad Cwsh. Tigris ydy enw’r drydedd afon. Mae hi’n llifo i’r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw’r bedwaredd afon. Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a’i osod yn yr ardd yn Eden, i’w thrin hi a gofalu amdani. A dyma fe’n rhoi gorchymyn i’r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.” Dwedodd yr ARGLWYDD Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da i’r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i’n mynd i wneud cymar iddo i’w gynnal.” A dyma’r ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o’r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai’n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un. Rhoddodd enwau i’r anifeiliaid, i’r adar, ac i’r bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo i’w gynnal. Felly dyma’r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i’r dyn gysgu’n drwm. Cymerodd ddarn o ochr y dyn, a rhoi cnawd yn ei le. Wedyn dyma’r ARGLWYDD Dduw yn ffurfio dynes allan o’r darn oedd wedi’i gymryd o’r dyn, a dod â hi at y dyn. A dyma’r dyn yn dweud, “O’r diwedd! Un sydd yr un fath â fi! Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd. ‘Dynes’ fydd yr enw arni, am ei bod wedi’i chymryd allan o ddyn.” Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig. Byddan nhw’n dod yn uned deuluol newydd. Roedd y dyn a’i wraig yn hollol noeth, a doedd ganddyn nhw ddim cywilydd.
Genesis 2:4-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma hanes cenhedlu'r nefoedd a'r ddaear pan grewyd hwy. Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd, nid oedd un o blanhigion y maes wedi dod ar y tir, nac un o lysiau'r maes wedi blaguro, am nad oedd yr ARGLWYDD Dduw eto wedi peri iddi lawio ar y ddaear, ac nad oedd yno ddyn i drin y tir; ond yr oedd tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y tir. Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw. A phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio. A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd, a phren gwybodaeth da a drwg. Yr oedd afon yn llifo allan o Eden i ddyfrhau'r ardd, ac oddi yno yr oedd yn ymrannu'n bedair. Enw'r afon gyntaf yw Pison; hon sy'n amgylchu holl wlad Hafila, lle y ceir aur; y mae aur y wlad honno'n dda, ac yno ceir bdeliwm a'r maen onyx. Enw'r ail yw Gihon; hon sy'n amgylchu holl wlad Ethiopia. Ac enw'r drydedd yw Tigris; hon sy'n llifo o'r tu dwyrain i Asyria. A'r bedwaredd afon yw Ewffrates. Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw. Rhoddodd yr ARGLWYDD Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, “Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd, ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw.” Dywedodd yr ARGLWYDD Dduw hefyd, “Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun; gwnaf iddo ymgeledd cymwys.” Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth â hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw. Rhoes y dyn enw ar yr holl anifeiliaid, ar adar yr awyr, ac ar yr holl fwystfilod gwyllt; ond ni chafodd ymgeledd cymwys iddo'i hun. Yna parodd yr ARGLWYDD Dduw i drymgwsg syrthio ar y dyn, a thra oedd yn cysgu, cymerodd un o'i asennau a chau ei lle â chnawd; ac o'r asen a gymerodd gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw wraig, a daeth â hi at y dyn. A dywedodd y dyn, “Dyma hi! Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd. Gelwir hi yn wraig, am mai o ŵr y cymerwyd hi.” Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd. Yr oedd y dyn a'i wraig ill dau yn noeth, ac nid oedd arnynt gywilydd.
Genesis 2:4-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dyma genedlaethau y nefoedd a’r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW ddaear a nefoedd, A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr ARGLWYDD DDUW lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio’r ddaear. Ond tarth a esgynnodd o’r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear. A’r ARGLWYDD DDUW a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw. Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a blannodd ardd yn Eden, o du’r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe. A gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW i bob pren dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o’r ddaear. Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen. Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur: Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwm a’r maen onics. Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia. Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du’r dwyrain i Asyria: a’r bedwaredd afon yw Ewffrates. A’r ARGLWYDD DDUW a gymerodd y dyn, ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw hi. A’r ARGLWYDD DDUW a orchmynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o’r ardd gan fwyta y gelli fwyta: Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw. Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo. A’r ARGLWYDD DDUW a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef. Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo. A’r ARGLWYDD DDUW a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o’i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi. A’r ARGLWYDD DDUW a wnaeth yr asen a gymerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn. Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y cymerwyd hi. Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd. Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a’i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.