Genesis 2:2-10
Genesis 2:2-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac erbyn y seithfed dydd yr oedd Duw wedi gorffen y gwaith a wnaeth, a gorffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith. Am hynny bendithiodd Duw y seithfed dydd a'i sancteiddio, am mai ar hwnnw y gorffwysodd Duw oddi wrth ei holl waith yn creu. Dyma hanes cenhedlu'r nefoedd a'r ddaear pan grewyd hwy. Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd, nid oedd un o blanhigion y maes wedi dod ar y tir, nac un o lysiau'r maes wedi blaguro, am nad oedd yr ARGLWYDD Dduw eto wedi peri iddi lawio ar y ddaear, ac nad oedd yno ddyn i drin y tir; ond yr oedd tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y tir. Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw. A phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio. A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd, a phren gwybodaeth da a drwg. Yr oedd afon yn llifo allan o Eden i ddyfrhau'r ardd, ac oddi yno yr oedd yn ymrannu'n bedair.
Genesis 2:2-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith. Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a’i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna’r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu. Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu: Pan wnaeth Duw y bydysawd, doedd dim planhigion gwyllt na llysiau yn tyfu ar y tir. Doedd Duw ddim eto wedi gwneud iddi lawio, a doedd neb chwaith i weithio ar y tir. Ond roedd dŵr yn codi o’r ddaear ac yn dyfrio wyneb y tir. Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o’r pridd. Wedyn chwythodd i’w ffroenau yr anadl sy’n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw. Yna dyma’r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua’r dwyrain, yn Eden, a rhoi’r dyn roedd wedi’i siapio yno. Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o’r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i’w bwyta. Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy’n rhoi bywyd a’r goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio’r ardd. Wedyn roedd yn rhannu’n bedair cangen.
Genesis 2:2-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe. A DUW a fendigodd y seithfed dydd, ac a’i sancteiddiodd ef: oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai DUW i’w wneuthur. Dyma genedlaethau y nefoedd a’r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW ddaear a nefoedd, A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr ARGLWYDD DDUW lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio’r ddaear. Ond tarth a esgynnodd o’r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear. A’r ARGLWYDD DDUW a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw. Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a blannodd ardd yn Eden, o du’r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe. A gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW i bob pren dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o’r ddaear. Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.