Genesis 2:19-20
Genesis 2:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth â hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw. Rhoes y dyn enw ar yr holl anifeiliaid, ar adar yr awyr, ac ar yr holl fwystfilod gwyllt; ond ni chafodd ymgeledd cymwys iddo'i hun.
Genesis 2:19-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o’r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai’n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un. Rhoddodd enwau i’r anifeiliaid, i’r adar, ac i’r bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo i’w gynnal.
Genesis 2:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD DDUW a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef. Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo.