Genesis 2:18-23
Genesis 2:18-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd yr ARGLWYDD Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da i’r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i’n mynd i wneud cymar iddo i’w gynnal.” A dyma’r ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o’r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai’n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un. Rhoddodd enwau i’r anifeiliaid, i’r adar, ac i’r bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo i’w gynnal. Felly dyma’r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i’r dyn gysgu’n drwm. Cymerodd ddarn o ochr y dyn, a rhoi cnawd yn ei le. Wedyn dyma’r ARGLWYDD Dduw yn ffurfio dynes allan o’r darn oedd wedi’i gymryd o’r dyn, a dod â hi at y dyn. A dyma’r dyn yn dweud
Genesis 2:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD Dduw hefyd, “Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun; gwnaf iddo ymgeledd cymwys.” Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth â hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw. Rhoes y dyn enw ar yr holl anifeiliaid, ar adar yr awyr, ac ar yr holl fwystfilod gwyllt; ond ni chafodd ymgeledd cymwys iddo'i hun. Yna parodd yr ARGLWYDD Dduw i drymgwsg syrthio ar y dyn, a thra oedd yn cysgu, cymerodd un o'i asennau a chau ei lle â chnawd; ac o'r asen a gymerodd gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw wraig, a daeth â hi at y dyn. A dywedodd y dyn, “Dyma hi! Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd. Gelwir hi yn wraig, am mai o ŵr y cymerwyd hi.”
Genesis 2:18-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo. A’r ARGLWYDD DDUW a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef. Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo. A’r ARGLWYDD DDUW a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o’i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi. A’r ARGLWYDD DDUW a wnaeth yr asen a gymerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn. Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y cymerwyd hi.