Genesis 2:15-17
Genesis 2:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw. Rhoddodd yr ARGLWYDD Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, “Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd, ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw.”
Genesis 2:15-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a’i osod yn yr ardd yn Eden, i’w thrin hi a gofalu amdani. A dyma fe’n rhoi gorchymyn i’r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.”
Genesis 2:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw. Rhoddodd yr ARGLWYDD Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, “Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd, ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw.”
Genesis 2:15-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD DDUW a gymerodd y dyn, ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw hi. A’r ARGLWYDD DDUW a orchmynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o’r ardd gan fwyta y gelli fwyta: Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.