Genesis 19:27-29
Genesis 19:27-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i’r man lle buodd e’n sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Edrychodd i lawr ar y dyffryn i gyfeiriad Sodom a Gomorra a gweld y mwg yn codi o’r tir fel mwg o ffwrnais. Ond pan ddinistriodd Duw drefi’r dyffryn, cofiodd beth roedd wedi’i addo i Abraham. Roedd wedi achub Lot o ganol y dinistr.
Genesis 19:27-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth Abraham yn y bore bach i'r fan lle'r oedd wedi sefyll gerbron yr ARGLWYDD; ac edrychodd i lawr ar Sodom a Gomorra ac ar holl dir y gwastadedd, a gwelodd fwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrn. Felly pan oedd Duw'n dinistrio dinasoedd y gwastadedd, yr oedd wedi cofio am Abraham, a phan oedd yn dinistrio'r dinasoedd y bu Lot yn trigo ynddynt, gyrrodd Lot allan o ganol y dinistr.
Genesis 19:27-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle y safasai efe ynddo gerbron yr ARGLWYDD. Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn. A phan ddifethodd DUW ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd DUW am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.