Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 19:1-29

Genesis 19:1-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth y ddau angel i Sodom gyda'r hwyr, tra oedd Lot yn eistedd ym mhorth Sodom. Pan welodd Lot hwy, cododd i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr, a dweud, “F'arglwyddi, trowch i mewn i dŷ eich gwas dros nos, a golchwch eich traed; yna cewch godi'n fore a mynd ar eich taith.” Dywedasant hwy, “Na, arhoswn heno yn yr heol.” Ond am iddo erfyn yn daer arnynt, troesant i mewn i'w dŷ; gwnaeth yntau wledd iddynt a phobi bara croyw, a bwytasant. Ond cyn iddynt fynd i orwedd, amgylchwyd y tŷ gan ddynion Sodom, pawb o bob cwr o'r ddinas, yn hen ac ifanc; ac yr oeddent yn galw ar Lot, ac yn dweud wrtho, “Ble mae'r gwŷr a ddaeth atat heno? Tyrd â hwy allan atom, inni gael cyfathrach â hwy.” Aeth Lot i'r drws atynt, a chau'r drws ar ei ôl, a dywedodd, “Fy mrodyr, peidiwch â gwneud y drwg hwn. Edrychwch, y mae gennyf ddwy ferch heb gael cyfathrach â gŵr; dof â hwy allan atoch. Cewch wneud iddynt hwy fel y dymunwch, ond peidiwch â gwneud dim i'r gwŷr hyn, gan eu bod wedi dod dan gysgod fy nghronglwyd.” Ond meddant hwy, “Saf yn ôl! Ai un a ddaeth yma i fyw dros dro sydd i ddatgan barn? Yn awr, gwnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy.” Yr oedd y dynion yn gwasgu mor drwm ar Lot fel y bu bron iddynt dorri'r drws. Ond estynnodd y gwŷr eu dwylo, a thynnu Lot atynt i'r tŷ a chau'r drws. A thrawsant yn ddall y dynion oedd wrth ddrws y tŷ, yn fawr a bach, nes iddynt flino chwilio am y drws. Yna dywedodd y gwŷr wrth Lot, “Pwy arall sydd gennyt yma? Dos â'th feibion-yng-nghyfraith, dy feibion a'th ferched, a phwy bynnag sydd gennyt yn y ddinas, allan o'r lle hwn, oherwydd yr ydym ar fin ei ddinistrio. Am fod y gŵyn yn fawr yn eu herbyn gerbron yr ARGLWYDD, fe anfonodd yr ARGLWYDD ni i ddinistrio'r lle hwn.” Felly aeth Lot allan a dweud wrth ei feibion-yng-nghyfraith, a oedd am briodi ei ferched, “Codwch, ewch allan o'r lle hwn; y mae'r ARGLWYDD ar fin dinistrio'r ddinas.” Ond yng ngolwg ei feibion-yng-nghyfraith yr oedd Lot fel un yn cellwair. Ar doriad gwawr, bu'r angylion yn erfyn ar Lot, gan ddweud, “Cod, cymer dy wraig a'r ddwy ferch sydd gyda thi, rhag dy ddifa pan gosbir y ddinas.” Yr oedd yntau'n oedi, ond gan fod yr ARGLWYDD yn tosturio wrtho, cydiodd y gwŷr yn ei law ac yn llaw ei wraig a'i ddwy ferch, a'u harwain a'u gosod y tu allan i'r ddinas. Wedi iddynt eu dwyn allan, dywedodd un, “Dianc am dy einioes; paid ag edrych yn ôl, na sefyllian yn y gwastadedd; dianc i'r mynydd rhag dy ddifa.” Ac meddai Lot, “Na! Nid felly, f'arglwydd; dyma dy was wedi cael ffafr yn d'olwg, a gwnaethost drugaredd fawr â mi yn arbed fy einioes; ond ni allaf ddianc i'r mynydd, rhag i'r niwed hwn fy ngoddiweddyd ac imi farw. Dacw ddinas agos i ffoi iddi, ac un fechan ydyw. Gad imi ddianc yno, imi gael byw; onid un fach yw hi?” Atebodd yntau, “o'r gorau, caniatâf y dymuniad hwn hefyd, ac ni ddinistriaf y ddinas a grybwyllaist. Dianc yno ar frys; oherwydd ni allaf wneud dim nes i ti gyrraedd yno.” Am hynny, galwyd y ddinas Soar. Erbyn i Lot gyrraedd Soar, yr oedd yr haul wedi codi dros y tir; yna glawiodd yr ARGLWYDD frwmstan a thân dwyfol o'r nefoedd ar Sodom a Gomorra. Dinistriodd y dinasoedd hynny a'r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chynnyrch y pridd. Ond yr oedd gwraig Lot wedi edrych yn ei hôl, a throdd yn golofn halen. Aeth Abraham yn y bore bach i'r fan lle'r oedd wedi sefyll gerbron yr ARGLWYDD; ac edrychodd i lawr ar Sodom a Gomorra ac ar holl dir y gwastadedd, a gwelodd fwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrn. Felly pan oedd Duw'n dinistrio dinasoedd y gwastadedd, yr oedd wedi cofio am Abraham, a phan oedd yn dinistrio'r dinasoedd y bu Lot yn trigo ynddynt, gyrrodd Lot allan o ganol y dinistr.

Genesis 19:1-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma’r ddau angel yn cyrraedd Sodom pan oedd hi’n dechrau nosi. Roedd Lot yn eistedd wrth giât y ddinas. Pan welodd Lot nhw, cododd i’w cyfarch, a phlygu o’u blaenau nhw, â’i wyneb ar lawr. “Fy meistri,” meddai wrthyn nhw, “plîs dewch draw i’m tŷ i. Cewch aros dros nos a golchi eich traed. Wedyn bore fory cewch godi’n gynnar a mynd ymlaen ar eich taith.” Ond dyma nhw’n ei ateb, “Na. Dŷn ni am aros allan yn y sgwâr drwy’r nos.” Ond dyma Lot yn dal ati i bwyso arnyn nhw, ac yn y diwedd aethon nhw gydag e i’w dŷ. Gwnaeth wledd iddyn nhw, gyda bara ffres wedi’i wneud heb furum, a dyma nhw’n bwyta. Cyn iddyn nhw setlo i lawr i gysgu, dyma ddynion Sodom i gyd yn cyrraedd yno ac yn amgylchynu’r tŷ – dynion hen ac ifanc o bob rhan o’r ddinas. A dyma nhw’n galw ar Lot, “Ble mae’r dynion sydd wedi dod atat ti heno? Tyrd â nhw allan yma i ni gael rhyw gyda nhw.” Aeth Lot allan at y dynion, a chau’r drws tu ôl iddo. “Dw i’n pledio arnoch chi, ffrindiau, plîs peidiwch gwneud peth mor ddrwg. Edrychwch, mae gen i ddwy ferch sydd erioed wedi cysgu hefo dyn. Beth am i mi ddod â nhw allan atoch chi? Cewch wneud beth dych chi eisiau iddyn nhw. Ond peidiwch gwneud dim i’r dynion yma – maen nhw’n westeion yn fy nghartre i.” Ond dyma’r dynion yn ei ateb, “Dos o’r ffordd! Un o’r tu allan wyt ti beth bynnag. Pwy wyt ti i’n barnu ni? Cei di hi’n waeth na nhw gynnon ni!” Dyma nhw’n gwthio yn erbyn Lot, nes bron torri’r drws i lawr. Ond dyma’r dynion yn y tŷ yn llwyddo i afael yn Lot a’i dynnu yn ôl i mewn a chau y drws. Yna dyma nhw’n gwneud i’r dynion oedd y tu allan gael eu taro’n ddall – pob un ohonyn nhw, o’r ifancaf i’r hynaf. Roedden nhw’n methu dod o hyd i’r drws. Gofynnodd y dynion i Lot, “Oes gen ti berthnasau yma? – meibion neu ferched, meibion yng nghyfraith neu unrhyw un arall? Dos i’w nôl nhw a gadael y lle yma, achos dŷn ni’n mynd i ddinistrio’r ddinas. Mae pobl wedi bod yn cwyno’n ofnadwy am y lle, ac mae’r ARGLWYDD wedi’n hanfon ni i’w ddinistrio.” Felly dyma Lot yn mynd i siarad â’r dynion oedd i fod i briodi ei ferched. “Codwch!” meddai, “Rhaid i ni adael y lle yma. Mae’r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio’r ddinas.” Ond roedden nhw yn meddwl mai tynnu coes oedd e. Ben bore wedyn gyda’r wawr, dyma’r angylion yn dweud wrth Lot am frysio, “Tyrd yn dy flaen. Dos â dy wraig a’r ddwy ferch sydd gen ti, neu byddwch chithau’n cael eich lladd pan fydd y ddinas yn cael ei dinistrio!” Ond roedd yn llusgo’i draed, felly dyma’r dynion yn gafael yn Lot a’i wraig a’i ferched, a mynd â nhw allan o’r ddinas. (Roedd yr ARGLWYDD mor drugarog ato.) Ar ôl mynd â nhw allan, dyma un o’r angylion yn dweud wrthyn nhw, “Rhedwch am eich bywydau. Peidiwch edrych yn ôl, a pheidiwch stopio nes byddwch chi allan o’r dyffryn yma. Rhedwch i’r bryniau, neu byddwch chi’n cael eich lladd.” Ond dyma Lot yn ateb, “O na, plîs, syr. Rwyt ti wedi bod mor garedig, ac wedi achub fy mywyd i. Ond mae’r bryniau acw’n rhy bell. Alla i byth gyrraedd mewn pryd. Bydd y dinistr yn fy nal i a bydda i’n marw cyn cyrraedd. Edrych, mae’r dre fach acw’n ddigon agos. Gad i mi ddianc yno. Mae’n lle bach, a bydda i’n cael byw.” “Iawn,” meddai’r angel, “wna i ddim dinistrio’r dref yna. Brysia felly. Dianc yno. Alla i wneud dim byd nes byddi di wedi cyrraedd yno.” A dyna pam mae’r lle yn cael ei alw yn Soar. Erbyn i Lot gyrraedd Soar roedd hi wedi dyddio. A dyma’r ARGLWYDD yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o’r awyr ar Sodom a Gomorra. Cafodd y ddwy dref eu dinistrio’n llwyr, a phawb a phopeth arall yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion. A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a chafodd ei throi’n golofn o halen. Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i’r man lle buodd e’n sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Edrychodd i lawr ar y dyffryn i gyfeiriad Sodom a Gomorra a gweld y mwg yn codi o’r tir fel mwg o ffwrnais. Ond pan ddinistriodd Duw drefi’r dyffryn, cofiodd beth roedd wedi’i addo i Abraham. Roedd wedi achub Lot o ganol y dinistr.

Genesis 19:1-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â’i wyneb tua’r ddaear; Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, atolwg, i dŷ eich gwas; lletywch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i’ch taith. A hwy a ddywedasant, Nage; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol. Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troesant ato, ac y daethant i’w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwytasant. Eithr cyn gorwedd ohonynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuanc, sef yr holl bobl o bob cwr; Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? dwg hwynt allan atom ni, fel yr adnabyddom hwynt. Yna y daeth Lot atynt hwy allan i’r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl; Ac a ddywedodd, Atolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg. Wele yn awr, y mae dwy ferch gennyf fi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i’r gwŷr hyn; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i. A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri’r ddôr. A’r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i’r tŷ, ac a gaeasant y ddôr. Trawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio’r drws. A’r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb eto? mab yng nghyfraith, a’th feibion, a’th ferched, a’r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o’r fangre hon. Oblegid ni a ddinistriwn y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr gerbron yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a’n hanfonodd ni i’w ddinistrio ef. Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o’r fan yma; oherwydd y mae’r ARGLWYDD yn difetha’r ddinas hon: ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair. Ac ar godiad y wawr, yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymer dy wraig, a’th ddwy ferch, y rhai sydd i’w cael; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas. Yntau a oedd hwyrfrydig, a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferch; am dosturio o’r ARGLWYDD wrtho ef; ac a’i dygasant ef allan, ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas. Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ôl, ac na saf yn yr holl wastadedd: dianc i’r mynydd, rhag dy ddifetha. A dywedodd Lot wrthynt, O nid felly, fy Arglwydd. Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddianc i’r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw ohonof. Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gad i mi ddianc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele, mi a ganiateais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist. Brysia, dianc yno; oherwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar. Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar. Yna yr ARGLWYDD a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr ARGLWYDD, allan o’r nefoedd. Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear. Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen. Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle y safasai efe ynddo gerbron yr ARGLWYDD. Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn. A phan ddifethodd DUW ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd DUW am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.