Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 18:16-33

Genesis 18:16-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan gododd y dynion i fynd, roedden nhw’n edrych allan i gyfeiriad Sodom. Roedd Abraham wedi cerdded gyda nhw beth o’r ffordd. A dyma’r ARGLWYDD yn meddwl, “Ddylwn i guddio beth dw i’n mynd i’w wneud oddi wrth Abraham? Mae cenedl fawr gref yn mynd i ddod o Abraham, a bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio drwyddo. Na, dw i’n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a phawb sydd gydag e i fyw fel mae’r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy’n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â’r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.” Felly dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Mae pobl yn cwyno yn ofnadwy yn erbyn Sodom a Gomorra, eu bod nhw’n gwneud pethau drwg iawn! Dw i am fynd i lawr i weld a ydy’r cwbl sy’n cael ei ddweud yn wir ai peidio. Bydda i’n gwybod wedyn.” Aeth y dynion yn eu blaenau i gyfeiriad Sodom, tra oedd Abraham yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma Abraham yn mynd yn nes ato a gofyn, “Fyddet ti ddim yn cael gwared â’r bobl dda gyda’r bobl ddrwg, fyddet ti? Beth petai pum deg o bobl yno sy’n byw yn iawn? Fyddet ti’n dinistrio’r lle yn llwyr a gwrthod ei arbed er mwyn y pum deg yna? Alla i ddim credu y byddet ti’n gwneud y fath beth – lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg, a thrin y drwg a’r da yr un fath! Fyddet ti byth yn gwneud hynny! Onid ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy’n iawn?” A dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Os bydda i’n dod o hyd i bum deg o bobl dduwiol yn y ddinas, bydda i’n arbed y ddinas er eu mwyn nhw.” Yna gofynnodd Abraham, “Gan fy mod i wedi mentro agor fy ngheg, meistr – a dw i’n gwybod nad ydw i’n neb – beth petai yna bump yn llai na hanner cant? Fyddet ti’n dinistrio’r ddinas am fod pump yn eisiau?” A dyma fe’n ateb, “Wna i ddim dinistrio’r ddinas os bydd pedwar deg pump yno.” A dyma Abraham yn dweud eto, “Beth am bedwar deg?” A dyma fe’n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd pedwar deg yno.” Ac meddai Abraham, “Plîs paid digio hefo fi, meistr. Beth os oes tri deg yno?” A dyma fe’n ateb, “Wna i ddim ei wneud os bydd tri deg yno.” “Dw i’n mynd i fentro agor fy ngheg eto,” meddai Abraham, “Beth os oes dau ddeg yno?” A dyma fe’n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd dau ddeg yno.” A dyma Abraham yn dweud eto, “Meistr, plîs paid â digio os gwna i siarad un waith eto, am y tro ola. Beth os oes deg yno?” A dyma fe’n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd deg yno.” Ar ôl iddo orffen siarad ag Abraham dyma’r ARGLWYDD yn mynd i ffwrdd. Yna aeth Abraham adre.

Genesis 18:16-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan aeth y gwŷr ymlaen oddi yno, ac edrych i lawr tua Sodom, aeth Abraham gyda hwy i'w hebrwng. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho'i hun, “A gelaf fi rhag Abraham yr hyn yr wyf am ei wneud, oherwydd yn ddiau daw Abraham yn genedl fawr a chref, a bendithir holl genhedloedd y ddaear ynddo? Na, fe'i hysbysaf, er mwyn iddo orchymyn i'w blant a'i dylwyth ar ei ôl gadw ffordd yr ARGLWYDD a gwneud cyfiawnder a barn, fel y bydd i'r ARGLWYDD gyflawni ei air i Abraham.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Am fod y gŵyn yn erbyn Sodom a Gomorra yn fawr, a'u pechod yn ddrwg iawn, disgynnaf i weld a wnaethant yn hollol yn ôl y gŵyn a ddaeth ataf; os na wnaethant, caf wybod.” Pan drodd y gwŷr oddi yno a mynd i gyfeiriad Sodom, yr oedd Abraham yn dal i sefyll gerbron yr ARGLWYDD. A nesaodd Abraham a dweud, “A wyt yn wir am ddifa'r cyfiawn gyda'r drygionus? Os ceir hanner cant o rai cyfiawn yn y ddinas, a wyt yn wir am ei dinistrio a pheidio ag arbed y lle er mwyn yr hanner cant cyfiawn sydd yno? Na foed iti wneud y fath beth, a lladd y cyfiawn gyda'r drygionus, nes bod y cyfiawn yr un fath â'r drygionus. Na ato Duw! Oni wna Barnwr yr holl ddaear farn?” A dywedodd yr ARGLWYDD, “Os caf yn ninas Sodom hanner cant o rai cyfiawn, arbedaf yr holl le er eu mwyn.” Atebodd Abraham a dweud, “Dyma fi wedi beiddio llefaru wrth yr ARGLWYDD, a minnau'n ddim ond llwch a lludw. Os bydd pump yn eisiau o'r hanner cant o rai cyfiawn, a ddinistri di'r holl ddinas oherwydd pump?” Dywedodd yntau, “Os caf yno bump a deugain, ni ddinistriaf hi.” Llefarodd eto wrtho a dweud, “Beth os ceir deugain yno?” Dywedodd yntau, “Nis gwnaf er mwyn y deugain.” Yna dywedodd, “Na ddigied yr ARGLWYDD os llefaraf. Ond beth os ceir yno ddeg ar hugain?” Dywedodd yntau, “Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.” Yna dywedodd, “Dyma fi wedi beiddio llefaru wrth yr ARGLWYDD. Beth os ceir yno ugain?” Dywedodd yntau, “Ni ddinistriaf hi er mwyn yr ugain.” Yna dywedodd, “Peidied yr ARGLWYDD â digio wrthyf am lefaru y tro hwn yn unig. Beth os ceir yno ddeg?” Dywedodd yntau, “Ni ddinistriaf hi er mwyn y deg.” Aeth yr ARGLWYDD ymaith wedi iddo orffen llefaru wrth Abraham, a dychwelodd Abraham i'w le.

Genesis 18:16-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tua Sodom: ac Abraham a aeth gyda hwynt, i’w hanfon hwynt. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf? Canys Abraham yn ddiau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear. Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ôl, gadw ohonynt ffordd yr ARGLWYDD, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo’r ARGLWYDD ar Abraham yr hyn a lefarodd efe amdano. Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorra yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn; Disgynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl eu gwaedd a ddaeth ataf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid e, mynnaf wybod. A’r gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodom: ac Abraham yn sefyll eto gerbron yr ARGLWYDD. Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol? Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi? Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyda’r annuwiol, fel y byddo’r cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn? A dywedodd yr ARGLWYDD, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt. Ac Abraham a atebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw. Ond odid bydd pump yn eisiau o’r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain. Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef eto, ac a ddywedodd, Ond odid ceir yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain. Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Ceir yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain. Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid ceir yno ugain. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain. Yna y dywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid ceir yno ddeg. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn deg. A’r ARGLWYDD a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan ag Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun.