Genesis 18:1-15
Genesis 18:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abraham wrth dderw Mamre, pan oedd yn eistedd wrth ddrws y babell yng ngwres y dydd. Cododd ei olwg a gwelodd dri gŵr yn sefyll o'i flaen. Pan welodd hwy, rhedodd o ddrws y babell i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr, a dweud, “F'arglwydd, os cefais ffafr yn d'olwg, paid â mynd heibio i'th was. Dyger ychydig ddŵr, a golchwch eich traed a gorffwyso dan y goeden, a dof finnau â thamaid o fara i'ch cynnal, ac wedyn cewch fynd ymaith; dyna pam yr ydych wedi dod at eich gwas.” Ac meddant, “Gwna fel y dywedaist.” Brysiodd Abraham i'r babell at Sara, a dweud, “Brysia i estyn tri mesur o flawd peilliaid, tylina ef, a gwna deisennau.” Yna rhedodd Abraham at y gwartheg, a chymryd llo tyner a da a'i roi i'w was; a brysiodd yntau i'w baratoi. Cymerodd gaws a llaeth a'r llo yr oedd wedi ei baratoi, a'u gosod o'u blaenau; yna safodd gerllaw o dan y goeden tra oeddent yn bwyta. Gofynasant iddo, “Ble mae dy wraig Sara?” Atebodd yntau, “Dyna hi yn y babell.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Dof yn ôl atat yn sicr yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara dy wraig fab.” Yr oedd Sara yn gwrando wrth ddrws y babell y tu ôl iddo. Yr oedd Abraham a Sara yn hen, mewn gwth o oedran, ac yr oedd arfer gwragedd wedi peidio i Sara. Am hynny, chwarddodd Sara ynddi ei hun, a dweud, “Ai wedi imi heneiddio, a'm gŵr hefyd yn hen, y caf hyfrydwch?” A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, “Pam y chwarddodd Sara a dweud, ‘A fyddaf fi'n wir yn planta, a minnau'n hen?’ A oes dim yn rhy anodd i'r ARGLWYDD? Dof yn ôl atat ar yr amser penodedig, yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara fab.” Gwadodd Sara iddi chwerthin, oherwydd yr oedd arni ofn. Ond dywedodd ef, “Do, fe chwerddaist.”
Genesis 18:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos i Abraham wrth goed derw Mamre. Roedd yr haul yn boeth ganol dydd, ac roedd yn eistedd wrth y fynedfa i’w babell. Gwelodd dri dyn yn sefyll gyferbyn ag e. Rhedodd draw atyn nhw ac ymgrymu yn isel o’u blaenau. “Fy meistr,” meddai, “Plîs peidiwch â mynd. Byddai’n fraint i’ch gwahodd chi i aros yma am ychydig. Cewch ddŵr i olchi eich traed, a chyfle i orffwys dan y goeden yma. Af i nôl ychydig o fwyd i’ch cadw chi i fynd. Cewch fynd ymlaen ar eich taith wedyn. Mae’n bleser gen i eich bod wedi dod heibio cartre’ch gwas.” A dyma nhw’n ateb, “Iawn, gwna di hynny.” Brysiodd Abraham i mewn i’r babell at Sara, a dweud, “Brysia, cymer sachaid o flawd mân i wneud bara.” Wedyn dyma Abraham yn rhuthro allan at y gwartheg, ac yn dewis llo ifanc. Rhoddodd y llo i’w was i’w baratoi ar frys. Pan oedd y bwyd yn barod, cymerodd Abraham gaws colfran a llaeth a’r cig wedi’i rostio a’u gosod o’u blaenau. A safodd wrth eu hymyl dan y goeden tra oedden nhw’n bwyta. “Ble mae dy wraig, Sara?” medden nhw wrth Abraham. “Fan yna, yn y babell,” atebodd yntau. A dyma un ohonyn nhw’n dweud, “Dw i’n mynd i ddod yn ôl yr adeg yma’r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd. (Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.) Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd hi’n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i’n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae fy meistr yn hen ddyn hefyd.” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i’n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’ Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i’n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma’r flwyddyn nesa, a bydd Sara’n cael mab.” Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi’n ceisio gwadu’r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai’r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.”
Genesis 18:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a ymddangosodd iddo ef yng ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, yng ngwres y dydd. Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwyr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd tua’r ddaear, Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, atolwg, oddi wrth dy was. Cymerer, atolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorffwyswch dan y pren; Ac mi a ddygaf damaid o fara, a chryfhewch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: oherwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist. Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sara, ac a ddywedodd, Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau. Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymerodd lo tyner a da, ac a’i rhoddodd at y llanc, yr hwn a frysiodd i’w baratoi ef. Ac efe a gymerodd ymenyn, a llaeth, a’r llo a baratoesai efe, ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt: ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren; a hwy a fwytasant. A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sara dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell. Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf atat ynghylch amser bywoliaeth; ac wele fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ôl ef. Abraham hefyd a Sara oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd. Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, a’m harglwydd yn hen hefyd? A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sara fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio? A fydd dim yn anodd i’r ARGLWYDD? Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat, ynghylch amser bywoliaeth, a mab fydd i Sara. A Sara a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nage, oblegid ti a chwerddaist.