Genesis 17:1-4
Genesis 17:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan oedd Abram yn naw deg a naw mlwydd oed ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron a bydd berffaith. Gwnaf fy nghyfamod â thi, ac amlhaf di'n ddirfawr.” Syrthiodd Abram ar ei wyneb, a llefarodd Duw wrtho a dweud, “Dyma fy nghyfamod i â thi: byddi'n dad i lu o genhedloedd
Genesis 17:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos iddo, ac yn dweud, “Fi ydy’r Duw sy’n rheoli popeth. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau. Bydda i’n gwneud ymrwymiad rhyngon ni’n dau, ac yn rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.” Plygodd Abram â’i wyneb ar lawr. Ac meddai Duw wrtho, “Dyma’r ymrwymiad dw i’n ei wneud i ti: byddi di’n dad i lawer iawn o bobloedd gwahanol.
Genesis 17:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith. A mi a wnaf fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th amlhaf di yn aml iawn. Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd DUW wrtho ef, gan ddywedyd, Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfamod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd.