Genesis 17:1-2
Genesis 17:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos iddo, ac yn dweud, “Fi ydy’r Duw sy’n rheoli popeth. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau. Bydda i’n gwneud ymrwymiad rhyngon ni’n dau, ac yn rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.”
Rhanna
Darllen Genesis 17Genesis 17:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan oedd Abram yn naw deg a naw mlwydd oed ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron a bydd berffaith. Gwnaf fy nghyfamod â thi, ac amlhaf di'n ddirfawr.”
Rhanna
Darllen Genesis 17Genesis 17:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith. A mi a wnaf fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th amlhaf di yn aml iawn.
Rhanna
Darllen Genesis 17