Genesis 15:2-6
Genesis 15:2-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond meddai Abram, “O Feistr, ARGLWYDD, beth ydy’r pwynt os bydda i’n marw heb gael mab? Elieser o Ddamascus fydd yn cael popeth sydd gen i! Dwyt ti ddim wedi rhoi plant i mi, felly caethwas sydd wedi bod gyda mi ers iddo gael ei eni fydd yn etifeddu’r cwbl!” Ond dyma’r ARGLWYDD yn ei ateb, “Na, dim hwn fydd yn cael dy eiddo di. Dy fab naturiol di dy hun fydd yn etifeddu dy eiddo di.” A dyma’r ARGLWYDD yn mynd ag Abram allan, a dweud wrtho, “Edrych i fyny i’r awyr. Cyfra faint o sêr sydd yna, os fedri di! Fel yna fydd dy ddisgynyddion di – yn gwbl amhosib i’w cyfri.” Credodd Abram yr ARGLWYDD, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gydag e.
Genesis 15:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond dywedodd Abram, “O Arglwydd DDUW, beth a roddi i mi, oherwydd rwy'n para'n ddi-blant, ac etifedd fy nhŷ yw Eleasar o Ddamascus?” Dywedodd Abram hefyd, “Edrych, nid wyt wedi rhoi epil i mi; a chaethwas o'm tŷ yw f'etifedd.” Yna daeth gair yr ARGLWYDD ato a dweud, “Nid hwn fydd d'etifedd; o'th gnawd dy hun y daw d'etifedd.” Aeth ag ef allan a dywedodd, “Edrych tua'r nefoedd, a rhifa'r sêr os gelli.” Yna dywedodd wrtho, “Felly y bydd dy ddisgynyddion.” Credodd Abram yn yr ARGLWYDD, a chyfrifodd yntau hyn yn gyfiawnder iddo.
Genesis 15:2-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd Abram, ARGLWYDD DDUW, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddi-blant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus. Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd. Ac wele air yr ARGLWYDD ato ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd. Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly y bydd dy had di. Yntau a gredodd yn yr ARGLWYDD, ac efe a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.