Genesis 15:12-21
Genesis 15:12-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond gyda’r nos, pan oedd hi’n machlud, dyma Abram yn syrthio i gysgu’n drwm. A daeth tywyllwch a dychryn ofnadwy drosto. Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i eisiau i ti ddeall y bydd dy ddisgynyddion yn cael eu hunain yn byw fel ffoaduriaid mewn gwlad ddieithr. Byddan nhw’n cael eu gwneud yn gaethweision, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd. Ond bydda i’n cosbi’r genedl fydd wedi’u gwneud nhw’n gaethweision, ac wedyn byddan nhw’n gadael y wlad honno gyda lot fawr o eiddo. (Ond byddi di dy hun yn cael bywyd hir, braf cyn i ti farw a chael dy gladdu.) Bydd dy ddisgynyddion yn dod yn ôl yma wedi pedair cenhedlaeth. Dydy’r holl ddrwg mae’r Amoriaid yn ei wneud ddim ar ei waethaf eto.” Pan oedd yr haul wedi machlud a hithau’n dywyll, dyma grochan tân oedd yn mygu a ffagl oedd yn llosgi yn pasio rhwng y darnau o’r anifeiliaid. Y diwrnod hwnnw dyma’r ARGLWYDD yn gwneud ymrwymiad gydag Abram: “Dw i’n mynd i roi’r wlad yma i dy ddisgynyddion di – y tir i gyd o afon yr Aifft i afon fawr Ewffrates. Tir y Ceneaid, Cenesiaid, Cadmoniaid, Hethiaid, Peresiaid, Reffaiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Girgasiaid, a’r Jebwsiaid.”
Genesis 15:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel yr oedd yr haul yn machlud, syrthiodd trymgwsg ar Abram; a dyna ddychryn a thywyllwch dudew yn dod arno. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd; ond dof â barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu, ac wedi hynny dônt allan gyda meddiannau lawer. Ond byddi di dy hun farw mewn tangnefedd, ac fe'th gleddir mewn oedran teg. A dychwelant hwy yma yn y bedwaredd genhedlaeth; oherwydd ni chwblheir hyd hynny ddrygioni'r Amoriaid.” Yna wedi i'r haul fachlud, ac iddi dywyllu, ymddangosodd ffwrn yn mygu a ffagl fflamllyd yn symud rhwng y darnau hynny. Y dydd hwnnw, gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram a dweud: “I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.” Dyna wlad y Ceneaid, y Cenesiaid, y Cadmoniaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Reffaimiaid, yr Amoriaid, y Canaaneaid, y Girgasiaid, a'r Jebusiaid.
Genesis 15:12-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trymgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef. Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a hwythau a’u cystuddiant bedwar can mlynedd. A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr. A thi a ei at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg. Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid. A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny. Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates: Y Ceneaid, a’r Cenesiaid, a’r Cadmoniaid. Yr Hethiaid hefyd, a’r Pheresiaid, a’r Reffaimiaid, Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Jebusiaid.