Genesis 1:20-23
Genesis 1:20-23 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i’r dyfroedd fod yn orlawn o bysgod a chreaduriaid byw eraill, a dw i eisiau i adar hedfan yn ôl ac ymlaen yn yr awyr uwchben y ddaear.” Felly dyma Duw yn creu y creaduriaid enfawr sydd yn y môr, a’r holl bethau byw eraill sydd ynddo, a’r holl wahanol fathau o adar hefyd. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud, “Dw i eisiau i chi gael haid o rai bach, nes eich bod chi’n llenwi’r dŵr sydd yn y môr, a dw i eisiau llawer o adar ar y ddaear.” Ac roedd nos a dydd ar y pumed diwrnod.
Genesis 1:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Duw, “Heigied y dyfroedd o greaduriaid byw, ac uwchlaw'r ddaear eheded adar ar draws ffurfafen y nefoedd.” A chreodd Duw y morfilod mawr, a'r holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd yn ôl eu rhywogaeth, a phob aderyn asgellog yn ôl ei rywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. Bendithiodd Duw hwy a dweud, “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y moroedd, a lluosoged yr adar ar y ddaear.” A bu hwyr a bu bore, y pumed dydd.
Genesis 1:20-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
DUW hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd. A DUW a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd. A DUW a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear, A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pumed dydd.