Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 1:1-27

Genesis 1:1-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a'r ddaear. Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. A dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. Galwodd Duw y goleuni yn ddydd a'r tywyllwch yn nos. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf. Yna dywedodd Duw, “Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd yn gwahanu dyfroedd oddi wrth ddyfroedd.” A gwnaeth Duw y ffurfafen, a gwahanodd y dyfroedd odani oddi wrth y dyfroedd uwchlaw iddi. A bu felly. Galwodd Duw y ffurfafen yn nefoedd. A bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd. Yna dywedodd Duw, “Casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych.” A bu felly. Galwodd Duw y tir sych yn ddaear, a chronfa'r dyfroedd yn foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. Dywedodd Duw, “Dyged y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had, a choed ir ar y ddaear yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth.” A bu felly. Dygodd y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had yn ôl eu rhywogaeth, a choed yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. A bu hwyr a bu bore, y trydydd dydd. Yna dywedodd Duw, “Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu'r dydd oddi wrth y nos, ac i fod yn arwyddion i'r tymhorau, a hefyd i'r dyddiau a'r blynyddoedd. Bydded iddynt fod yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear.” A bu felly. Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf y nos; a gwnaeth y sêr hefyd. A gosododd Duw hwy yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear, i reoli'r dydd a'r nos ac i wahanu'r goleuni oddi wrth y tywyllwch. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. A bu hwyr a bu bore, y pedwerydd dydd. Yna dywedodd Duw, “Heigied y dyfroedd o greaduriaid byw, ac uwchlaw'r ddaear eheded adar ar draws ffurfafen y nefoedd.” A chreodd Duw y morfilod mawr, a'r holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd yn ôl eu rhywogaeth, a phob aderyn asgellog yn ôl ei rywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. Bendithiodd Duw hwy a dweud, “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y moroedd, a lluosoged yr adar ar y ddaear.” A bu hwyr a bu bore, y pumed dydd. Yna dywedodd Duw, “Dyged y ddaear greaduriaid byw yn ôl eu rhywogaeth: anifeiliaid, ymlusgiaid a bwystfilod gwyllt yn ôl eu rhywogaeth.” A bu felly. Gwnaeth Duw y bwystfilod gwyllt yn ôl eu rhywogaeth, a'r anifeiliaid yn ôl eu rhywogaeth, a holl ymlusgiaid y tir yn ôl eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear.” Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy.

Genesis 1:1-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear. Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi’n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr. A dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!” a daeth golau i fod. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu’r golau oddi wrth y tywyllwch. Rhoddodd Duw yr enw ‘dydd’ i’r golau a’r enw ‘nos’ i’r tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf. Wedyn dwedodd Duw, “Dw i eisiau cromen o aer rhwng y dyfroedd, i wahanu’r dŵr yn ddau.” A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw gromen o aer, ac roedd yn gwahanu’r dŵr oddi tani oddi wrth y dŵr uwch ei phen. Rhoddodd Duw yr enw ‘awyr’ iddi, ac roedd nos a dydd ar yr ail ddiwrnod. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i’r dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod i’r golwg.” A dyna ddigwyddodd. Rhoddodd Duw yr enw ‘tir’ i’r ddaear, a ‘moroedd’ i’r dŵr. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. Yna dwedodd Duw, “Dw i eisiau i laswellt dyfu o’r tir, a phob math o blanhigion sydd â hadau ynddyn nhw, a choed ffrwythau. Bydd yr hadau ynddyn nhw yn gwneud i fwy a mwy o’r planhigion gwahanol hynny dyfu.” A dyna ddigwyddodd. Roedd y tir wedi’i orchuddio â glaswellt a phlanhigion a choed o bob math, a’u hadau eu hunain ynddyn nhw. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, ac roedd nos a dydd ar y trydydd diwrnod. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau goleuadau yn yr awyr i wahanu’r dydd a’r nos. Byddan nhw hefyd yn arwyddion i fesur y tymhorau, y dyddiau a’r blynyddoedd. Byddan nhw’n goleuo’r ddaear o’r awyr.” A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw ddau olau mawr – yr haul a’r lleuad. Roedd yr un mwya disglair, sef yr haul, i reoli’r dydd, a’r golau lleia, sef y lleuad, i reoli’r nos. Gwnaeth Duw y sêr hefyd. Gosododd nhw i gyd yn yr awyr i oleuo’r ddaear, i reoli dydd a nos, ac i wahanu’r golau oddi wrth y tywyllwch. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, ac roedd nos a dydd ar y pedwerydd diwrnod. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i’r dyfroedd fod yn orlawn o bysgod a chreaduriaid byw eraill, a dw i eisiau i adar hedfan yn ôl ac ymlaen yn yr awyr uwchben y ddaear.” Felly dyma Duw yn creu y creaduriaid enfawr sydd yn y môr, a’r holl bethau byw eraill sydd ynddo, a’r holl wahanol fathau o adar hefyd. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud, “Dw i eisiau i chi gael haid o rai bach, nes eich bod chi’n llenwi’r dŵr sydd yn y môr, a dw i eisiau llawer o adar ar y ddaear.” Ac roedd nos a dydd ar y pumed diwrnod. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i greaduriaid byw o bob math lenwi’r ddaear: anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, a bywyd gwyllt o bob math.” A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw bob math o greaduriaid gwyllt, pob math o anifeiliaid, ac ymlusgiaid a phryfed gwahanol i fyw ar y ddaear. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. Yna dwedodd Duw, “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni’n hunain, i fod yn debyg i ni; i fod yn feistri sy’n gofalu am bopeth – y pysgod yn y môr, yr adar yn yr awyr, yr anifeiliaid, y ddaear gyfan a’r holl greaduriaid a phryfed sy’n byw arni.” Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun. Yn ddelw ohono’i hun y creodd nhw. Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw.

Genesis 1:1-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yn y dechreuad y creodd DUW y nefoedd a’r ddaear. A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd DUW yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. A DUW a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu. A DUW a welodd y goleuni, mai da oedd: a DUW a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch. A DUW a alwodd y goleuni yn Ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y dydd cyntaf. DUW hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd. A DUW a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a’r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu. A’r ffurfafen a alwodd DUW yn Nefoedd: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, yr ail ddydd. DUW hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu. A’r sychdir a alwodd DUW yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a DUW a welodd mai da oedd. A DUW a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu. A’r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a DUW a welodd mai da oedd. A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y trydydd dydd. DUW hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd. A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu. A DUW a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu’r dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu’r nos: a’r sêr hefyd a wnaeth efe. Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes DUW hwynt, i oleuo ar y ddaear, Ac i lywodraethu’r dydd a’r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd DUW mai da oedd. A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pedwerydd dydd. DUW hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd. A DUW a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd. A DUW a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear, A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pumed dydd. DUW hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu. A DUW a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a’r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd. DUW hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear. Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.