Galatiaid 6:14-18
Galatiaid 6:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O'm rhan fy hun, cadwer fi rhag ymffrostio mewn dim ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, y groes y mae'r byd drwyddi wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i'r byd. Nid enwaediad sy'n cyfrif, na dienwaediad, ond creadigaeth newydd. A phawb fydd yn rhodio wrth y rheol hon, tangnefedd arnynt, a thrugaredd, ie, ar Israel Duw! Peidied neb bellach â pheri blinder imi, oherwydd yr wyf yn dwyn nodau Iesu yn fy nghorff. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd, gyfeillion! Amen.
Galatiaid 6:14-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Mae’r groes yn golygu fod y byd a’i bethau yn hollol farw i mi, a dw innau’n farw i’r byd a’i bethau. Dim cael eich enwaedu neu beidio sy’n bwysig bellach. Beth sy’n bwysig ydy bod eich bywyd chi wedi’i newid yn llwyr – eich bod chi’n greadigaeth newydd! Dw i’n gweddïo y bydd pawb sy’n byw fel hyn, a phobl Dduw i gyd, yn profi ei heddwch dwfn a’i drugaredd! Felly o hyn ymlaen, peidied neb â dal ati i greu mwy o helynt i mi. Mae gen i greithiau ar fy nghorff sy’n dangos mod i’n perthyn i Iesu! Frodyr a chwiorydd, dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.
Galatiaid 6:14-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd. Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd. A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw. O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau’r Arglwydd Iesu. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen. At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.