Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 6:1-18

Galatiaid 6:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Frodyr a chwiorydd, os ydy rhywun yn cael ei ddal yn pechu, dylech chi sy’n cael eich arwain gan yr Ysbryd fod yn garedig ato, a’i helpu i droi’n ôl – ond gwyliwch rhag i chithau gael eich temtio i wneud yr un peth. Helpwch eich gilydd pan mae pethau’n galed – dyna mae ‘cyfraith’ y Meseia yn ei ofyn. Os dych chi’n meddwl eich bod chi’n rhywun, dych chi’n twyllo’ch hunain – dych chi’n neb mewn gwirionedd. Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi’i wneud heb orfod cymharu’ch hunain â phobl eraill o hyd. Dŷn ni’n gyfrifol am beth dŷn ni’n hunain wedi’i wneud. Dylai’r rhai sy’n cael eu dysgu am neges Duw dalu i’w hathro drwy rannu beth sydd ganddyn nhw gydag e. Peidiwch twyllo’ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw’n ei hau. Bydd y rhai sy’n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai sy’n byw i blesio’r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o’r Ysbryd. Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw’r amser pan fyddwn ni’n medi cynhaeaf o fendith. Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig i’r teulu o gredinwyr. Edrychwch mor fawr ydy fy llawysgrifen i! Mae’r rhai sy’n ceisio eich gorfodi chi i gael eich enwaedu yn gwneud sioe o beth sydd wedi’i wneud i’r corff. A pham? Am eu bod nhw eisiau osgoi cael eu herlid am ddweud mai dim ond croes y Meseia sy’n achub. Ond dydy’r rhai sydd wedi’u henwaedu ddim yn gwneud popeth mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud beth bynnag! Y rheswm pam maen nhw eisiau i chi fynd drwy’r ddefod o gael eich enwaedu ydy er mwyn iddyn nhw gael brolio am y peth! “Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Mae’r groes yn golygu fod y byd a’i bethau yn hollol farw i mi, a dw innau’n farw i’r byd a’i bethau. Dim cael eich enwaedu neu beidio sy’n bwysig bellach. Beth sy’n bwysig ydy bod eich bywyd chi wedi’i newid yn llwyr – eich bod chi’n greadigaeth newydd! Dw i’n gweddïo y bydd pawb sy’n byw fel hyn, a phobl Dduw i gyd, yn profi ei heddwch dwfn a’i drugaredd! Felly o hyn ymlaen, peidied neb â dal ati i greu mwy o helynt i mi. Mae gen i greithiau ar fy nghorff sy’n dangos mod i’n perthyn i Iesu! Frodyr a chwiorydd, dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.

Galatiaid 6:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gyfeillion, os caiff rhywun ei ddal mewn rhyw drosedd, eich gwaith chwi, y rhai ysbrydol, yw ei adfer mewn ysbryd addfwyn. Ond edrych atat dy hun, rhag ofn i tithau gael dy demtio. Cariwch feichiau eich gilydd, ac felly fe gyflawnwch Gyfraith Crist. Oherwydd, os yw rhywun yn tybio ei fod yn rhywbeth, ac yntau yn ddim, ei dwyllo ei hun y mae. Y mae pob un i farnu ei waith ei hun, ac yna fe gaiff le i ymffrostio o'i ystyried ei hun yn unig, ac nid neb arall. Oherwydd bydd gan bob un ei bwn ei hun i'w gario. Y mae'r sawl sy'n cael ei hyfforddi yn y gair i roi cyfran o'i holl feddiannau i'w hyfforddwr. Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi. Bydd y sawl sy'n hau i'w gnawd ei hun yn medi o'i gnawd lygredigaeth, a'r sawl sy'n hau i'r Ysbryd yn medi o'r Ysbryd fywyd tragwyddol. Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi'r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo. Felly, tra bydd amser gennym, gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd. Gwelwch mor fras yw'r llythrennau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch â'm llaw fy hun. Rhai â'u bryd ar rodres yn y cnawd yw'r rheini sy'n ceisio eich gorfodi i dderbyn enwaediad, a hynny'n unig er mwyn iddynt hwy arbed cael eu herlid o achos croes Crist. Oherwydd nid yw'r rhai a enwaedir eu hunain hyd yn oed yn cadw'r Gyfraith. Y maent am i chwi dderbyn enwaediad er mwyn iddynt hwy gael ymffrostio yn eich cnawd chwi. O'm rhan fy hun, cadwer fi rhag ymffrostio mewn dim ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, y groes y mae'r byd drwyddi wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i'r byd. Nid enwaediad sy'n cyfrif, na dienwaediad, ond creadigaeth newydd. A phawb fydd yn rhodio wrth y rheol hon, tangnefedd arnynt, a thrugaredd, ie, ar Israel Duw! Peidied neb bellach â pheri blinder imi, oherwydd yr wyf yn dwyn nodau Iesu yn fy nghorff. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd, gyfeillion! Amen.

Galatiaid 6:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder; gan dy ystyried dy hun, rhag dy demtio dithau. Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist. Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun. Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall. Canys pob un a ddwg ei faich ei hun. A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da. Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe. Oblegid yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd, o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol. Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn. Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd. Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â’m llaw fy hun. Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i’ch enwaedu; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist. Canys nid yw’r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw’r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi. Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd. Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd. A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw. O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau’r Arglwydd Iesu. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen. At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.