Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 5:7-18

Galatiaid 5:7-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roeddech chi’n dod ymlaen mor dda. Pwy wnaeth eich rhwystro chi rhag ufuddhau i’r gwir? Does gan y fath syniadau ddim byd i’w wneud â’r Duw wnaeth eich galw chi ato’i hun! Fel mae’r hen ddywediad yn dweud: “Mae mymryn bach o furum yn lledu drwy’r toes i gyd.” Dyna mae drwg yn ei wneud! Dw i’n hyderus y bydd yr Arglwydd yn eich cadw chi rhag credu’n wahanol. Ond bydd Duw yn cosbi’r un sydd wedi bod yn eich drysu chi, pwy bynnag ydy e. Frodyr a chwiorydd, os ydw i’n dal i bregethu bod rhaid mynd drwy ddefod enwaediad, pam ydw i’n dal i gael fy erlid? Petawn i’n gwneud hynny, fyddai’r groes ddim problem i neb. Byddai’n dda gen i petai’r rhai sy’n creu’r helynt yn eich plith chi yn mynd yr holl ffordd ac yn sbaddu eu hunain! Ydych, ffrindiau annwyl, dych chi wedi’ch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, sy’n esgus i adael i’r chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd. Mae yna un gorchymyn sy’n crynhoi’r cwbl mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” Ond os dych chi’n gwneud dim byd ond cega ac ymosod ar eich gilydd, gwyliwch eich hunain! Byddwch chi’n dinistrio’ch gilydd. Beth dw i’n ei ddweud ydy y dylech adael i’r Ysbryd reoli’ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae’r chwantau eisiau. Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg – yn hollol groes i beth mae’r Ysbryd eisiau. Ond mae’r Ysbryd yn rhoi’r awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth mae’r natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen – allwch chi ddim dianc rhagddi. Ond os ydy’r Ysbryd yn eich arwain chi, dych chi ddim yn gaeth i’r Gyfraith Iddewig bellach.