Galatiaid 5:19-26
Galatiaid 5:19-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a phenrhyddid llwyr; hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i’n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o’r blaen, fydd pobl sy’n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw. Ond dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly. Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda’i nwydau a’i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. Felly os ydy’r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i’r Ysbryd ein harwain ni. Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio’n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.
Galatiaid 5:19-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd, eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio, cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw. Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth. Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain. Y mae pobl Crist Iesu wedi croeshoelio'r cnawd ynghyd â'i nwydau a'i chwantau. Os yw ein bywyd yn yr Ysbryd, ynddo hefyd bydded ein buchedd. Bydded inni ymgadw rhag gwag ymffrost, rhag herio ein gilydd, a rhag cenfigennu wrth ein gilydd.
Galatiaid 5:19-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, Delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw. Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest: Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf. A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau. Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd. Na fyddwn wag-ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.