Galatiaid 5:18-26
Galatiaid 5:18-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond os ydych yn cael eich arwain gan yr Ysbryd, nid ydych dan gyfraith. Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd, eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio, cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw. Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth. Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain. Y mae pobl Crist Iesu wedi croeshoelio'r cnawd ynghyd â'i nwydau a'i chwantau. Os yw ein bywyd yn yr Ysbryd, ynddo hefyd bydded ein buchedd. Bydded inni ymgadw rhag gwag ymffrost, rhag herio ein gilydd, a rhag cenfigennu wrth ein gilydd.
Galatiaid 5:18-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf. Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, Delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw. Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest: Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf. A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau. Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd. Na fyddwn wag-ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.