Galatiaid 5:1-4
Galatiaid 5:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni’n rhydd! Mae’r Meseia wedi’n gollwng ni’n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod cario’r baich o fod yn gaeth byth eto. Gwrandwch yn ofalus! Dyma dw i, Paul, yn ei ddweud wrthoch chi – os dych chi’n mynd drwy’r ddefod o gael eich enwaedu yn y gobaith o blesio Duw, does gan y Meseia ddim i’w gynnig i chi bellach. Dw i’n eich rhybuddio chi eto – os ydy dyn yn cael ei enwaedu, mae ganddo gyfrifoldeb wedyn i wneud popeth mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Os dych chi’n ceisio cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau’r Gyfraith, dych chi wedi’ch torri i ffwrdd oddi wrth y Meseia! Dych chi wedi colli gafael ar rodd Duw.
Galatiaid 5:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
I ryddid y rhyddhaodd Crist ni. Safwch yn gadarn, felly, a pheidiwch â phlygu eto i iau caethiwed. Dyma fy ngeiriau, i, Paul, wrthych chwi: os derbyniwch enwaediad, ni bydd Crist o ddim budd i chwi. Yr wyf yn tystio unwaith eto wrth bob dyn a enwaedir, ei fod dan rwymedigaeth i gadw'r Gyfraith i gyd. Chwi sy'n ceisio cyfiawnhad trwy gyfraith, y mae eich perthynas â Christ wedi ei thorri; yr ydych wedi syrthio oddi wrth ras.
Galatiaid 5:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Sefwch gan hynny yn y rhyddid â’r hwn y rhyddhaodd Crist ni; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed. Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi. Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf. Chwi a aethoch yn ddi-fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras.