Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 5:1-26

Galatiaid 5:1-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dŷn ni’n rhydd! Mae’r Meseia wedi’n gollwng ni’n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod cario’r baich o fod yn gaeth byth eto. Gwrandwch yn ofalus! Dyma dw i, Paul, yn ei ddweud wrthoch chi – os dych chi’n mynd drwy’r ddefod o gael eich enwaedu yn y gobaith o blesio Duw, does gan y Meseia ddim i’w gynnig i chi bellach. Dw i’n eich rhybuddio chi eto – os ydy dyn yn cael ei enwaedu, mae ganddo gyfrifoldeb wedyn i wneud popeth mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Os dych chi’n ceisio cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau’r Gyfraith, dych chi wedi’ch torri i ffwrdd oddi wrth y Meseia! Dych chi wedi colli gafael ar rodd Duw. Ond wrth gredu a byw yn nerth yr Ysbryd dŷn ni’n gallu edrych ymlaen yn frwd at gael perthynas hollol iawn gyda Duw – dyna’n gobaith sicr ni. Os oes gynnoch chi berthynas gyda’r Meseia Iesu does dim gwahaniaeth os dych chi wedi bod drwy’r ddefod o gael eich enwaedu neu beidio. Credu sy’n bwysig – ffydd yn mynegi ei hun mewn bywyd o gariad. Roeddech chi’n dod ymlaen mor dda. Pwy wnaeth eich rhwystro chi rhag ufuddhau i’r gwir? Does gan y fath syniadau ddim byd i’w wneud â’r Duw wnaeth eich galw chi ato’i hun! Fel mae’r hen ddywediad yn dweud: “Mae mymryn bach o furum yn lledu drwy’r toes i gyd.” Dyna mae drwg yn ei wneud! Dw i’n hyderus y bydd yr Arglwydd yn eich cadw chi rhag credu’n wahanol. Ond bydd Duw yn cosbi’r un sydd wedi bod yn eich drysu chi, pwy bynnag ydy e. Frodyr a chwiorydd, os ydw i’n dal i bregethu bod rhaid mynd drwy ddefod enwaediad, pam ydw i’n dal i gael fy erlid? Petawn i’n gwneud hynny, fyddai’r groes ddim problem i neb. Byddai’n dda gen i petai’r rhai sy’n creu’r helynt yn eich plith chi yn mynd yr holl ffordd ac yn sbaddu eu hunain! Ydych, ffrindiau annwyl, dych chi wedi’ch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, sy’n esgus i adael i’r chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd. Mae yna un gorchymyn sy’n crynhoi’r cwbl mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” Ond os dych chi’n gwneud dim byd ond cega ac ymosod ar eich gilydd, gwyliwch eich hunain! Byddwch chi’n dinistrio’ch gilydd. Beth dw i’n ei ddweud ydy y dylech adael i’r Ysbryd reoli’ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae’r chwantau eisiau. Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg – yn hollol groes i beth mae’r Ysbryd eisiau. Ond mae’r Ysbryd yn rhoi’r awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth mae’r natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen – allwch chi ddim dianc rhagddi. Ond os ydy’r Ysbryd yn eich arwain chi, dych chi ddim yn gaeth i’r Gyfraith Iddewig bellach. Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a phenrhyddid llwyr; hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i’n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o’r blaen, fydd pobl sy’n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw. Ond dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly. Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda’i nwydau a’i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. Felly os ydy’r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i’r Ysbryd ein harwain ni. Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio’n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.

Galatiaid 5:1-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

I ryddid y rhyddhaodd Crist ni. Safwch yn gadarn, felly, a pheidiwch â phlygu eto i iau caethiwed. Dyma fy ngeiriau, i, Paul, wrthych chwi: os derbyniwch enwaediad, ni bydd Crist o ddim budd i chwi. Yr wyf yn tystio unwaith eto wrth bob dyn a enwaedir, ei fod dan rwymedigaeth i gadw'r Gyfraith i gyd. Chwi sy'n ceisio cyfiawnhad trwy gyfraith, y mae eich perthynas â Christ wedi ei thorri; yr ydych wedi syrthio oddi wrth ras. Ond yr ydym ni, yn yr Ysbryd, trwy ffydd, yn disgwyl am y cyfiawnder yr ydym yn gobeithio amdano. Oherwydd yng Nghrist Iesu nid enwaediad sy'n cyfrif, na dienwaediad, ond ffydd yn gweithredu trwy gariad. Yr oeddech yn rhedeg yn dda. Pwy a'ch rhwystrodd chwi rhag canlyn y gwirionedd? Nid oddi wrth yr hwn sy'n eich galw y daeth y perswâd yma. Y mae ychydig surdoes yn suro'r holl does. Yr wyf fi'n gwbl hyderus amdanoch yn yr Arglwydd, na fydd i chwi wyro yn eich barn; ond bydd rhaid i hwnnw sy'n aflonyddu arnoch ddwyn ei gosb, pwy bynnag ydyw. Amdanaf fi, gyfeillion, os wyf yn parhau i bregethu'r enwaediad, pam y parheir i'm herlid? Petai hynny'n wir, byddai tramgwydd y groes wedi ei symud. O na bai eich aflonyddwyr yn eu sbaddu eu hunain hefyd! Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd. Oherwydd y mae'r holl Gyfraith wedi ei mynegi'n gyflawn mewn un gair, sef yn y gorchymyn, “Câr dy gymydog fel ti dy hun.” Ond os cnoi a darnio'ch gilydd yr ydych, gofalwch na chewch eich difa gan eich gilydd. Dyma yr wyf yn ei olygu: rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni fyddwch fyth yn cyflawni chwantau'r cnawd. Oherwydd y mae chwantau'r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a chwantau'r Ysbryd yn erbyn y cnawd. Y maent yn tynnu'n groes i'w gilydd, fel na allwch wneud yr hyn a fynnwch. Ond os ydych yn cael eich arwain gan yr Ysbryd, nid ydych dan gyfraith. Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd, eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio, cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw. Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth. Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain. Y mae pobl Crist Iesu wedi croeshoelio'r cnawd ynghyd â'i nwydau a'i chwantau. Os yw ein bywyd yn yr Ysbryd, ynddo hefyd bydded ein buchedd. Bydded inni ymgadw rhag gwag ymffrost, rhag herio ein gilydd, a rhag cenfigennu wrth ein gilydd.

Galatiaid 5:1-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Sefwch gan hynny yn y rhyddid â’r hwn y rhyddhaodd Crist ni; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed. Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi. Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf. Chwi a aethoch yn ddi-fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras. Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder. Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad. Chwi a redasoch yn dda; pwy a’ch rhwystrodd chwi, fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd? Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi. Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r holl does. Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo. A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, paham y’m herlidir eto? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes. Mi a fynnwn, ie, pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch. Canys i ryddid y’ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd. Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd. Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd. Canys y mae’r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch. Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf. Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, Delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw. Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest: Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf. A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau. Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd. Na fyddwn wag-ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.