Galatiaid 4:1-7
Galatiaid 4:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma dw i’n olygu: Does gan blentyn sy’n mynd i dderbyn eiddo’i dad ddim mwy o hawliau na chaethwas tra mae’n dal dan oed – er mai’r plentyn hwnnw biau’r cwbl ar un ystyr! Mae gofalwyr ac ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y plentyn nes daw i’r oed roedd ei dad wedi penderfynu y byddai’n ddigon cyfrifol i edrych ar ei ôl ei hun. Felly gyda ninnau; pan oedden ni ddim yn deall yn iawn, roedden ni’n gaeth i’r pwerau a’r dylanwadau drwg sy’n rheoli’r byd. Ond ar yr union adeg roedd Duw wedi’i ddewis, anfonodd ei Fab, wedi’i eni o wraig, wedi’i eni dan y Gyfraith, i dalu’r pris i’n rhyddhau ni oedd yn gaeth i’r Gyfraith, er mwyn i ni gael ein mabwysiadu’n blant i Dduw. A chan eich bod chi sydd ddim yn Iddewon hefyd yn blant iddo bellach, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’n calonnau ni i gyd, sef yr Ysbryd sy’n gweiddi, “ Abba ! Dad!” Felly dim caethweision ydych chi bellach, ond plant Duw; a chan eich bod yn blant iddo, byddwch chithau’n derbyn gan Dduw y cwbl mae wedi addo ei roi i chi.
Galatiaid 4:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma yr wyf yn ei olygu: cyhyd ag y mae'r etifedd dan oed, nid oes dim gwahaniaeth rhyngddo a chaethwas, er ei fod yn berchennog ar y stad i gyd. Y mae dan geidwaid a goruchwylwyr hyd y dyddiad a benodwyd gan ei dad. Felly ninnau, pan oeddem dan oed, yr oeddem wedi ein caethiwo dan ysbrydion elfennig y cyfanfyd. Ond pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith, i brynu rhyddid i'r rhai oedd dan y Gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad. A chan eich bod yn blant, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau, yn llefain, “Abba! Dad!” Felly, nid caethwas wyt ti bellach, ond plentyn; ac os plentyn, yna etifedd, trwy weithred Duw.
Galatiaid 4:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae’r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl; Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad. Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd: Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf; Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad. Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.