Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 4:1-31

Galatiaid 4:1-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dyma yr wyf yn ei olygu: cyhyd ag y mae'r etifedd dan oed, nid oes dim gwahaniaeth rhyngddo a chaethwas, er ei fod yn berchennog ar y stad i gyd. Y mae dan geidwaid a goruchwylwyr hyd y dyddiad a benodwyd gan ei dad. Felly ninnau, pan oeddem dan oed, yr oeddem wedi ein caethiwo dan ysbrydion elfennig y cyfanfyd. Ond pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith, i brynu rhyddid i'r rhai oedd dan y Gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad. A chan eich bod yn blant, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau, yn llefain, “Abba! Dad!” Felly, nid caethwas wyt ti bellach, ond plentyn; ac os plentyn, yna etifedd, trwy weithred Duw. Gynt, yn wir, a chwithau heb adnabod Duw, caethweision oeddech i fodau nad ydynt o ran eu natur yn dduwiau. Ond yn awr, a chwithau wedi adnabod Duw, neu yn hytrach, wedi eich adnabod gan Dduw, sut y gallwch droi yn ôl at yr ysbrydion elfennig llesg a thlawd, a mynnu mynd yn gaethweision iddynt hwy unwaith eto? Cadw dyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd, yr ydych. Y mae arnaf ofn mai yn ofer yr wyf wedi llafurio ar eich rhan. Rwy'n ymbil arnoch, gyfeillion, byddwch fel yr wyf fi, oherwydd fe fûm i, yn wir, fel yr oeddech chwi. Ni wnaethoch ddim cam â mi. Fel y gwyddoch, ar achlysur gwendid corfforol y pregethais yr Efengyl i chwi y tro cyntaf; ac er i gyflwr fy nghorff fod yn demtasiwn i chwi, ni fuoch na dibris na dirmygus ohonof, ond fy nerbyn a wnaethoch fel angel Duw, fel Crist Iesu ei hun. Ble'r aeth eich llawenydd? Oherwydd gallaf dystio amdanoch, y buasech wedi tynnu'ch llygaid allan a'u rhoi i mi, petasai hynny'n bosibl. A wyf fi, felly, wedi mynd yn elyn ichwi, am imi ddweud y gwir wrthych? Y mae yna bobl sy'n rhoi sylw mawr ichwi, ond nid er eich lles; ceisio eich cau chwi allan y maent, er mwyn i chwi roi sylw iddynt hwy. Peth da bob amser yw ichwi gael sylw, pan fydd hynny er lles, ac nid yn unig pan fyddaf fi'n bresennol gyda chwi. Fy mhlant bach, yr wyf unwaith eto mewn gwewyr esgor arnoch, hyd nes y ceir ffurf Crist ynoch. Byddai'n dda gennyf fod gyda chwi yn awr, a gostegu fy llais, oherwydd yr wyf mewn penbleth yn eich cylch. Dywedwch i mi, chwi sy'n mynnu bod dan gyfraith, oni wrandewch ar y Gyfraith? Y mae'n ysgrifenedig i Abraham gael dau fab, un o'i gaethferch ac un o'i wraig rydd. Ganwyd mab y gaethferch yn ôl greddfau'r cnawd, ond ganwyd mab y wraig rydd trwy addewid Duw. Alegori yw hyn oll. Y mae'r gwragedd yn cynrychioli dau gyfamod. Y mae un o Fynydd Sinai, yn geni plant i gaethiwed. Hagar yw hon; y mae Hagar yn cynrychioli Mynydd Sinai yn Arabia, ac y mae'n cyfateb i'r Jerwsalem sydd yn awr, oherwydd y mae hi, ynghyd â'i phlant, mewn caethiwed. Ond y mae'r Jerwsalem sydd fry yn rhydd, a hi yw ein mam ni. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Llawenha, y wraig ddiffrwyth nad wyt yn dwyn plant; bloeddia ganu, y wraig nad wyt fyth mewn gwewyr esgor; oherwydd y mae plant y wraig ddiymgeledd yn lluosocach na phlant y wraig sydd â gŵr ganddi.” Ond yr ydych chwi, gyfeillion, fel Isaac, yn blant addewid Duw. Ond fel yr oedd plentyn y cnawd gynt yn erlid plentyn yr Ysbryd, felly y mae yn awr hefyd. Ond beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? “Gyrr allan y gaethferch a'i mab, oherwydd ni chaiff mab y gaethferch fyth gydetifeddu â mab y wraig rydd.” Gan hynny, gyfeillion, nid plant i'r gaethferch ydym ni, ond plant i'r wraig rydd.

Galatiaid 4:1-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma dw i’n olygu: Does gan blentyn sy’n mynd i dderbyn eiddo’i dad ddim mwy o hawliau na chaethwas tra mae’n dal dan oed – er mai’r plentyn hwnnw biau’r cwbl ar un ystyr! Mae gofalwyr ac ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y plentyn nes daw i’r oed roedd ei dad wedi penderfynu y byddai’n ddigon cyfrifol i edrych ar ei ôl ei hun. Felly gyda ninnau; pan oedden ni ddim yn deall yn iawn, roedden ni’n gaeth i’r pwerau a’r dylanwadau drwg sy’n rheoli’r byd. Ond ar yr union adeg roedd Duw wedi’i ddewis, anfonodd ei Fab, wedi’i eni o wraig, wedi’i eni dan y Gyfraith, i dalu’r pris i’n rhyddhau ni oedd yn gaeth i’r Gyfraith, er mwyn i ni gael ein mabwysiadu’n blant i Dduw. A chan eich bod chi sydd ddim yn Iddewon hefyd yn blant iddo bellach, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’n calonnau ni i gyd, sef yr Ysbryd sy’n gweiddi, “ Abba ! Dad!” Felly dim caethweision ydych chi bellach, ond plant Duw; a chan eich bod yn blant iddo, byddwch chithau’n derbyn gan Dduw y cwbl mae wedi addo ei roi i chi. O’r blaen, cyn i chi ddod i wybod am Dduw roeddech chi’n gaeth i bwerau sy’n cael eu galw’n ‘dduwiau’ ond sydd ddim wir yn dduwiau. Ond bellach dych chi wedi cyfarfod, a dod i nabod, y gwir Dduw (er, Duw ddaeth i’ch cyfarfod chi go iawn). Felly pam dych chi eisiau troi’n ôl at y pethau hynny sydd mor wan a thila? Ydych chi eisiau cael eich caethiwo ganddyn nhw unwaith eto? Ydych chi’n meddwl mai cadw rhyw fân reolau am ddyddiau arbennig a misoedd a thymhorau’r gwyliau crefyddol blynyddol sy’n plesio Duw? Mae’n gwneud i mi deimlo mod i wedi gwastraffu f’amser gyda chi! Frodyr a chwiorydd, dw i’n erfyn arnoch chi i fyw’n rhydd o bethau felly, fel dw i’n gwneud. Dw i wedi dod fel un ohonoch chi. Dych chi erioed wedi gwneud dim drwg i mi o’r blaen. Gwyddoch mai salwch roddodd gyfle i mi gyhoeddi’r newyddion da i chi y tro cyntaf. A wnaethoch chi ddim gwneud hwyl am fy mhen i na ngwrthod i, er bod fy salwch yn demtasiwn i chi wneud hynny. Yn wir, ces i’r fath groeso gynnoch chi – fel petawn i’n angel oddi wrth Dduw, neu hyd yn oed y Meseia Iesu ei hun! Roeddech chi mor hapus! Beth sydd wedi digwydd? Dw i’n reit siŵr y byddech chi bryd hynny wedi tynnu’ch llygaid eich hunain allan a’u rhoi nhw i mi petai’n bosib. Ydw i bellach yn elyn i chi am fy mod i wedi dweud y gwir? Mae’r athrawon ffals yna mor awyddus i geisio’ch cael chi i’w dilyn nhw, ond dŷn nhw’n poeni dim am eich lles chi. Y cwbl maen nhw eisiau ydy’ch cael chi i dorri cysylltiad â ni, a dechrau eu cefnogi nhw. “Mae’n beth da ceisio pobl gyda’r bwriad o wneud lles iddyn nhw” – felly y dylai fod bob amser, nid dim ond pan dw i o gwmpas. Fy mhlant annwyl i – dw i’n teimlo fel mam yn cael poenau wrth eni plentyn, a fydd y poen ddim yn diflannu nes bydd bywyd y Meseia i’w weld yn eich bywydau chi. O! byddwn i’n rhoi unrhyw beth am gael bod acw gyda chi, er mwyn i chi glywed oddi wrth dôn fy llais sut dw i’n teimlo go iawn. Dw i wir yn poeni! – dw i ddim yn gwybod beth i’w wneud! Dwedwch wrtho i – chi sydd eisiau cael eich rheoli gan fanion y Gyfraith Iddewig. Ydych chi ddim yn gwrando ar beth mae’r Gyfraith yn ei ddweud? Mae’n dweud fod Abraham wedi cael dau fab, un gan ei gaethferch a’r llall gan ei wraig. Cafodd mab y gaethferch ei eni o ganlyniad i ymdrech dyn i gyflawni addewid Duw, ond cafodd mab ei wraig ei eni am fod Duw yn gwneud beth mae’n addo’i wneud. Mae darlun yn yr hanes, a dyma’i ystyr: Mae’r ddwy wraig yn cynrychioli dau ymrwymiad wnaeth Duw. Mae Hagar, y gaethferch, yn cynrychioli’r un ar fynydd Sinai – ac mae ei phlant hi wedi’u geni yn gaethion. Ac mae Hagar a Mynydd Sinai yn Arabia yn ddarlun o Jerwsalem fel y mae heddiw – mae hi a’i phlant yn gaethion. Ond mae Sara gwraig Abraham, ar y llaw arall, yn wraig rydd, ac yn cynrychioli y Jerwsalem ysbrydol. Hi ydy’n mam ni! Amdani hi mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd lawen, ti wraig ddiffrwyth sy’n methu cael plant! Bloeddia ganu’n uchel, ti sydd heb brofi poenau geni plentyn! Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hun fwy o blant na’r un sydd â gŵr.” Frodyr a chwiorydd, chi ydy plant yr addewid! – yn union fel Isaac! Ac fel y cafodd Isaac ei erlid gan fab y gaethferch, mae’r plant sydd wedi’u geni o’r Ysbryd Glân yn cael eu herlid gan y rhai sy’n dweud bod rhaid ymdrechu i gadw popeth mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Ond beth ydy ateb yr ysgrifau sanctaidd i’r broblem? “Rhaid i ti gael gwared â’r gaethferch a’i mab. Fydd mab y gaethferch ddim yn cael rhan o etifeddiaeth mab dy wraig, sy’n rhydd.” Dim plant y gaethferch ydyn ni, ffrindiau! Plant y wraig rydd ydyn ni!

Galatiaid 4:1-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae’r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl; Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad. Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd: Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf; Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad. Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist. Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau. Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu? Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd. Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer. Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: ni wnaethoch i mi ddim cam. A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf. A’m profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a’m derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu. Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasech eich llygaid, ac a’u rhoesech i mi. A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir? Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy. Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi. Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch; Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch. Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y ddeddf? Canys y mae’n ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab; un o’r wasanaethferch, ac un o’r wraig rydd. Eithr yr hwn oedd o’r wasanaethferch, a aned yn ôl y cnawd; a’r hwn oedd o’r wraig rydd, trwy’r addewid. Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: canys y rhai hyn yw’r ddau destament; un yn ddiau o fynydd Seina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar: Canys yr Agar yma yw mynydd Seina yn Arabia, ac y mae yn cyfateb i’r Jerwsalem sydd yn awr; ac y mae yn gaeth, hi a’i phlant. Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll. Canys ysgrifenedig yw, Llawenha, di’r amhlantadwy, yr hon nid wyt yn epilio; tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor: canys i’r unig y mae llawer mwy o blant nag i’r hon y mae iddi ŵr. A ninnau, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym blant yr addewid. Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai’r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd, felly yr awr hon hefyd. Ond beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaethferch a’i mab: canys ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd. Felly, frodyr, nid plant i’r wasanaethferch ydym, ond i’r wraig rydd.