Galatiaid 3:23-29
Galatiaid 3:23-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cyn i’r Meseia ddod roedd y Gyfraith yn ein dal ni’n gaeth – roedden ni dan glo nes i’w ffyddlondeb e gael ei ddangos i ni. Pwrpas y Gyfraith oedd ein gwarchod ni a’n harwain ni at y Meseia, er mwyn i ni ddod i berthynas iawn gyda Duw drwy gredu ynddo. Mae e wedi bod yn ffyddlon, ac felly dim y Gyfraith sy’n ein gwarchod ni bellach. Dych chi i gyd yn blant Duw drwy gredu yn y Meseia Iesu. Mae pob un ohonoch chi wedi uniaethu gyda’r Meseia drwy eich bedydd – mae’r un fath â’ch bod wedi gwisgo’r Meseia amdanoch. Sdim ots os ydych chi’n Iddew neu’n perthyn i genedl arall, yn gaethwas neu ddinesydd rhydd, gwryw a benyw – dych chi i gyd fel un teulu sy’n perthyn i’r Meseia Iesu. Os dych chi’n perthyn i’r Meseia, dych chi’n blant i Abraham, a byddwch yn derbyn yr holl bethau da mae Duw wedi’u haddo.
Galatiaid 3:23-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cyn i'r ffydd hon ddod, yr oeddem dan warchodaeth gaeth cyfraith, yn disgwyl am y ffydd oedd i gael ei datguddio. Felly, bu'r Gyfraith yn was i warchod trosom hyd nes i Grist ddod, ac inni gael ein cyfiawnhau trwy ffydd. Ond gan fod y ffydd hon bellach wedi dod, nid ydym mwyach dan warchodaeth gwas. Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu. Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Grist wedi gwisgo Crist amdano. Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu. Ac os ydych yn eiddo Crist, yna had Abraham ydych, etifeddion yn ôl yr addewid.
Galatiaid 3:23-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd-gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio. Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist. Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.