Galatiaid 3:19-26
Galatiaid 3:19-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly beth oedd diben rhoi’r Gyfraith? Cafodd ei rhoi i ddangos i bobl beth ydy ystyr pechu, hyd nes i’r ‘hedyn’ y soniwyd amdano gyrraedd – sef yr un oedd yr addewid yn cyfeirio ato. Cofiwch hefyd fod Duw wedi defnyddio angylion i roi’r Gyfraith i ni, a hynny drwy ganolwr, sef Moses. Does ond angen canolwr pan mae mwy nag un ochr. Ond pan wnaeth Duw addewid i Abraham roedd yn gweithredu ar ei ben ei hun. Felly, ydy hyn yn golygu bod y Gyfraith yn gwrth-ddweud beth wnaeth Duw ei addo? Na, dim o gwbl! Petai Duw wedi rhoi cyfraith oedd yn gallu rhoi bywyd i bobl, yna’n sicr byddai pobl yn gallu cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau’r gyfraith honno. Ond mae’r ysgrifau sanctaidd yn dangos yn glir fod pawb drwy’r byd i gyd yn gaeth i bechod. Y rhai sy’n credu sy’n derbyn beth wnaeth Duw ei addo, a hynny am fod Iesu Grist wedi bod yn ffyddlon. Cyn i’r Meseia ddod roedd y Gyfraith yn ein dal ni’n gaeth – roedden ni dan glo nes i’w ffyddlondeb e gael ei ddangos i ni. Pwrpas y Gyfraith oedd ein gwarchod ni a’n harwain ni at y Meseia, er mwyn i ni ddod i berthynas iawn gyda Duw drwy gredu ynddo. Mae e wedi bod yn ffyddlon, ac felly dim y Gyfraith sy’n ein gwarchod ni bellach. Dych chi i gyd yn blant Duw drwy gredu yn y Meseia Iesu.
Galatiaid 3:19-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Beth, ynteu, am y Gyfraith? Ar gyfrif troseddau yr ychwanegwyd hi, i aros hyd nes y byddai'r had, yr un y gwnaed yr addewid iddo, yn dod. Fe'i gorchmynnwyd trwy angylion, gyda chymorth canolwr. Ond nid oes angen canolwr lle nad oes ond un; ac un yw Duw. A yw'r Gyfraith, ynteu, yn groes i addewidion Duw? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd pe bai cyfraith wedi ei rhoi â'r gallu ganddi i gyfrannu bywyd, yna, yn wir, fe fyddai cyfiawnder trwy gyfraith. Ond nid felly y mae; yn ôl dyfarniad yr Ysgrythur, y mae'r byd i gyd wedi ei gaethiwo gan bechod, er mwyn peri mai trwy ffydd yn Iesu Grist, ac i'r rhai sy'n meddu'r ffydd honno, y rhoddid yr hyn a addawyd. Cyn i'r ffydd hon ddod, yr oeddem dan warchodaeth gaeth cyfraith, yn disgwyl am y ffydd oedd i gael ei datguddio. Felly, bu'r Gyfraith yn was i warchod trosom hyd nes i Grist ddod, ac inni gael ein cyfiawnhau trwy ffydd. Ond gan fod y ffydd hon bellach wedi dod, nid ydym mwyach dan warchodaeth gwas. Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu.
Galatiaid 3:19-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Beth gan hynny yw’r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai’r had, i’r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr. A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un. A ydyw’r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o’r ddeddf y buasai cyfiawnder. Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i’r rhai sydd yn credu. Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd-gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio. Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu.