Galatiaid 2:18-21
Galatiaid 2:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd os wyf yn adeiladu drachefn y pethau a dynnais i lawr, yr wyf yn fy mhrofi fy hun yn droseddwr. Oherwydd trwy gyfraith bûm farw i gyfraith, er mwyn byw i Dduw. Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; a mwyach, nid myfi sy'n byw, ond Crist sy'n byw ynof fi. A'r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a'm carodd i ac a'i rhoes ei hun i farw trosof fi. Nid wyf am ddirymu gras Duw; oherwydd os trwy gyfraith y daw cyfiawnder, yna bu Crist farw yn ddiachos.
Galatiaid 2:18-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os dw i’n mynd yn ôl i’r hen ffordd – ailadeiladu beth wnes i ei chwalu – dw i’n troseddu yn erbyn Duw go iawn wedyn. Wrth i mi geisio cadw’r Gyfraith Iddewig mae’r Gyfraith honno wedi fy lladd i, er mwyn i mi gael byw i wasanaethu Duw. Dw i wedi marw ar y groes gyda’r Meseia, ac felly nid fi sy’n byw bellach, ond y Meseia sy’n byw ynof fi. Dw i’n byw y math o fywyd dw i’n ei fyw nawr am fod Mab Duw wedi bod yn ffyddlon, wedi fy ngharu i a rhoi ei hun yn aberth yn fy lle i. Dw i ddim yn mynd i daflu rhodd hael Duw i ffwrdd! Os oedd perthynas iawn gyda Duw yn bosib drwy gadw’r Gyfraith yn ddeddfol, doedd dim pwynt i’r Meseia farw!”
Galatiaid 2:18-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr. Canys yr wyf fi trwy’r ddeddf wedi marw i’r ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw. Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi. Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os o’r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.