Galatiaid 2:15-16
Galatiaid 2:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Rwyt ti a fi wedi’n geni’n Iddewon, dim yn ‘bechaduriaid’ fel mae pobl o genhedloedd eraill yn cael eu galw. Ac eto dŷn ni’n gwybod mai dim cadw yn ddeddfol holl fanion y Gyfraith Iddewig sy’n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn. Credu fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon sy’n gwneud hynny. Felly roedd rhaid i ni’r Iddewon hefyd gredu yn y Meseia Iesu – credu mai ei ffyddlondeb e sy’n ein gwneud ni’n iawn gyda Duw dim cadw manion y Gyfraith Iddewig! ‘All neb fod yn iawn gyda Duw drwy gadw’r Gyfraith!’
Galatiaid 2:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym ni wedi'n geni yn Iddewon, nid yn bechaduriaid o'r Cenhedloedd. Ac eto fe wyddom na chaiff neb ei gyfiawnhau ond trwy ffydd yn Iesu Grist, nid trwy gadw gofynion cyfraith. Felly fe gredasom ninnau yng Nghrist Iesu er mwyn ein cyfiawnhau, nid trwy gadw gofynion cyfraith, ond trwy ffydd yng Nghrist, oherwydd ni chaiff neb meidrol ei gyfiawnhau trwy gadw gofynion cyfraith.
Galatiaid 2:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o’r Cenhedloedd yn bechaduriaid, Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y’n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf.