Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 2:1-19

Galatiaid 2:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedyn, ymhen pedair blynedd ar ddeg, euthum unwaith eto i fyny i Jerwsalem ynghyd â Barnabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi. Euthum i fyny mewn ufudd-dod i ddatguddiad. Gosodais ger eu bron—o'r neilltu, gerbron y rhai a gyfrifir yn arweinwyr—yr Efengyl yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd, rhag ofn fy mod yn rhedeg, neu wedi rhedeg, yn ofer. Ond ni orfodwyd enwaedu ar fy nghydymaith Titus hyd yn oed, er mai Groegwr ydoedd. Codwyd y mater o achos y gau gredinwyr, llechgwn a oedd wedi llechian i mewn fel ysbiwyr ar y rhyddid sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu, gyda'r bwriad o'n caethiwo ni. Ond nid ildiasom iddynt trwy gymryd ein darostwng, naddo, ddim am foment, er mwyn i wirionedd yr Efengyl aros yn ddianaf ar eich cyfer chwi. Ond am y rhai a gyfrifir yn rhywbeth (nid yw o ddim gwahaniaeth i mi beth oeddent gynt; nid yw Duw yn ystyried safle unrhyw un), nid ychwanegodd yr arweinwyr hyn ddim at yr hyn oedd gennyf. I'r gwrthwyneb, fe welsant fod yr Efengyl ar gyfer y Cenhedloedd wedi ei hymddiried i mi, yn union fel yr oedd yr Efengyl ar gyfer yr Iddewon wedi ei hymddiried i Pedr. Oherwydd yr un a weithiodd yn Pedr i'w wneud yn apostol i'r Iddewon, a weithiodd ynof finnau i'm gwneud yn apostol i'r Cenhedloedd. A dyma Iago a Ceffas ac Ioan, y gwŷr a gyfrifir yn golofnau, yn cydnabod y gras oedd wedi ei roi i mi, ac yn estyn i Barnabas a minnau ddeheulaw cymdeithas, ac yn cytuno ein bod ni i fynd at y Cenhedloedd a hwythau at yr Iddewon. Eu hunig gais oedd ein bod i gofio'r tlodion; a dyna'r union beth yr oeddwn wedi ymroi i'w wneud. Ond pan ddaeth Ceffas i Antiochia, fe'i gwrthwynebais yn ei wyneb, gan ei fod yn amlwg ar fai. Oherwydd, cyn i rywrai ddod yno oddi wrth Iago, byddai ef yn arfer cydfwyta gyda'r Cristionogion cenhedlig, ond wedi iddynt ddod, dechreuodd gadw'n ôl ac ymbellhau, am ei fod yn ofni plaid yr enwaediad. Ymunodd yr Iddewon eraill hefyd yn ei ragrith, nes ysgubo Barnabas yntau i ragrithio gyda hwy. Ond pan welais nad oeddent yn cadw at lwybr gwirionedd yr Efengyl, dywedais wrth Ceffas yng ngŵydd pawb, “Os wyt ti, er dy fod yn Iddew, yn byw nid fel Iddew ond fel Cenedl-ddyn, pa hawl sydd gennyt ti i orfodi'r Cenhedloedd i fyw fel Iddewon?” Yr ydym ni wedi'n geni yn Iddewon, nid yn bechaduriaid o'r Cenhedloedd. Ac eto fe wyddom na chaiff neb ei gyfiawnhau ond trwy ffydd yn Iesu Grist, nid trwy gadw gofynion cyfraith. Felly fe gredasom ninnau yng Nghrist Iesu er mwyn ein cyfiawnhau, nid trwy gadw gofynion cyfraith, ond trwy ffydd yng Nghrist, oherwydd ni chaiff neb meidrol ei gyfiawnhau trwy gadw gofynion cyfraith. Ond os, wrth geisio cael ein cyfiawnhau yng Nghrist, cafwyd ninnau hefyd yn bechaduriaid, a yw hynny'n golygu bod Crist yn was pechod? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd os wyf yn adeiladu drachefn y pethau a dynnais i lawr, yr wyf yn fy mhrofi fy hun yn droseddwr. Oherwydd trwy gyfraith bûm farw i gyfraith, er mwyn byw i Dduw.

Galatiaid 2:1-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Aeth un deg pedair blynedd heibio cyn i mi fynd yn ôl i Jerwsalem eto. Es i gyda Barnabas y tro hwnnw, a dyma ni’n mynd â Titus gyda ni hefyd. Roedd Duw wedi dangos i mi fod rhaid i mi fynd. Ces gyfarfod preifat gyda’r rhai sy’n cael eu hystyried yn arweinwyr ‘pwysig’. Dyma fi’n dweud wrthyn nhw yn union beth dw i wedi bod yn ei bregethu fel newyddion da i bobl o genhedloedd eraill. Rôn i am wneud yn siŵr mod i ddim wedi bod yn gweithio mor galed i ddim byd. Ond wnaethon nhw ddim hyd yn oed orfodi Titus i fynd drwy’r ddefod o gael ei enwaedu, a dydy e ddim yn Iddew. Roedd dryswch wedi codi am fod rhai pobl oedd yn smalio eu bod yn credu wedi’u hanfon i’n plith ni, fel ysbiwyr yn ein gwylio ni a’r rhyddid sydd gynnon ni yn ein perthynas â’r Meseia Iesu. Roedden nhw eisiau ein gwneud ni’n gaeth unwaith eto, ond wnaethon ni ddim rhoi i mewn iddyn nhw o gwbl. Roedden ni am wneud yn siŵr eich bod chi’n dal gafael yng ngwirionedd y newyddion da. Felly beth oedd ymateb yr arweinwyr ‘pwysig’ yma? – (dydy pwy oedden nhw’n gwneud dim gwahaniaeth i mi – does gan Dduw ddim ffefrynnau!) Doedd ganddyn nhw ddim o gwbl i’w ychwanegu at fy neges i. Na, yn hollol i’r gwrthwyneb! Roedd hi’n gwbl amlwg iddyn nhw fod Duw wedi rhoi’r dasg i mi o gyhoeddi’r newyddion da i bobl o genhedloedd eraill, yn union fel roedd wedi rhoi’r dasg i Pedr o’i gyhoeddi i’r Iddewon. Roedd yr un Duw oedd yn defnyddio Pedr fel ei gynrychiolydd i’r Iddewon, yn fy nefnyddio i gyda phobl o genhedloedd eraill. Dyma Iago, Pedr ac Ioan (y rhai sy’n cael eu cyfri fel ‘y pileri’, sef yr arweinwyr pwysica) yn derbyn Barnabas a fi fel partneriaid llawn. Roedden nhw’n gweld mai Duw oedd wedi rhoi’r gwaith yma i mi. Y cytundeb oedd ein bod ni’n mynd at bobl y cenhedloedd a nhw’n mynd at yr Iddewon. Yr unig beth oedden nhw’n pwyso arnon ni i’w wneud oedd i beidio anghofio’r tlodion, ac roedd hynny’n flaenoriaeth gen i beth bynnag! Ond wedyn pan ddaeth Pedr i ymweld ag Antiochia, roedd rhaid i mi dynnu’n groes iddo, am ei bod hi’n amlwg ei fod e ar fai. Ar y dechrau roedd yn ddigon parod i rannu pryd o fwyd gyda phobl oedd ddim yn Iddewon. Ond dyma ryw ddynion yn cyrraedd oedd wedi dod oddi wrth Iago yn Jerwsalem, a dyma Pedr yn dechrau cadw draw a thorri cysylltiad â’r Cristnogion hynny oedd ddim yn Iddewon. Roedd yn poeni am y rhai oedd yn credu bod defod enwaediad yn hanfodol bwysig – beth fydden nhw’n ei feddwl ohono. A dyma’r Cristnogion Iddewig eraill yn dechrau rhagrithio yr un fath â Pedr. Cafodd hyd yn oed Barnabas ei gamarwain ganddyn nhw! Ond roedd hi’n gwbl amlwg i mi eu bod nhw’n ymddwyn yn groes i wirionedd y newyddion da. Felly dyma fi’n dweud wrth Pedr o’u blaen nhw i gyd, “Rwyt ti’n Iddew, ac eto rwyt ti’n byw fel pobl o genhedloedd eraill, felly sut wyt ti’n cyfiawnhau gorfodi pobl o’r gwledydd hynny i ddilyn traddodiadau Iddewig?” “Rwyt ti a fi wedi’n geni’n Iddewon, dim yn ‘bechaduriaid’ fel mae pobl o genhedloedd eraill yn cael eu galw. Ac eto dŷn ni’n gwybod mai dim cadw yn ddeddfol holl fanion y Gyfraith Iddewig sy’n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn. Credu fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon sy’n gwneud hynny. Felly roedd rhaid i ni’r Iddewon hefyd gredu yn y Meseia Iesu – credu mai ei ffyddlondeb e sy’n ein gwneud ni’n iawn gyda Duw dim cadw manion y Gyfraith Iddewig! ‘All neb fod yn iawn gyda Duw drwy gadw’r Gyfraith!’ “Ond os ydy ceisio perthynas iawn gyda Duw drwy beth wnaeth y Meseia yn dangos ein bod ni’n ‘bechaduriaid’ fel pawb arall, ydy hynny’n golygu bod y Meseia yn gwasanaethu pechod? Na! Wrth gwrs ddim! Os dw i’n mynd yn ôl i’r hen ffordd – ailadeiladu beth wnes i ei chwalu – dw i’n troseddu yn erbyn Duw go iawn wedyn. Wrth i mi geisio cadw’r Gyfraith Iddewig mae’r Gyfraith honno wedi fy lladd i, er mwyn i mi gael byw i wasanaethu Duw. Dw i wedi marw ar y groes gyda’r Meseia

Galatiaid 2:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barnabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi. Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad, ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd; ond o’r neilltu i’r rhai cyfrifol, rhag mewn un modd fy mod yn rhedeg yn ofer, neu ddarfod i mi redeg. Eithr Titus, yr hwn oedd gyda mi, er ei fod yn Roegwr, ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno: A hynny oherwydd y gau frodyr a ddygasid i mewn, y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y’n caethiwent ni: I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, naddo dros awr; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi. A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn;) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi: Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megis am efengyl yr enwaediad i Pedr: (Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:) A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau-ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad. Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur. A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i’w feio. Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, efe a fwytaodd gyda’r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a’i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni’r rhai oedd o’r enwaediad. A’r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i’w rhagrith hwy. Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd? Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o’r Cenhedloedd yn bechaduriaid, Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y’n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf. Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y’n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? Na ato Duw. Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr. Canys yr wyf fi trwy’r ddeddf wedi marw i’r ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw.