Galatiaid 1:11-24
Galatiaid 1:11-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Frodyr a chwiorydd, dw i eisiau i chi ddeall yn iawn mai dim rhywbeth wnaeth pobl ei ddychmygu ydy’r newyddion da yma dw i’n ei gyhoeddi. Dim clywed y neges gan rywun arall wnes i, a wnaeth neb arall ei dysgu hi i mi; na, y Meseia Iesu ei hun ddangosodd i mi beth oedd y gwir. Mae’n siŵr eich bod chi wedi clywed beth roeddwn i’n ei wneud pan o’n i’n dilyn y grefydd Iddewig: roeddwn i’n erlid Cristnogion fel ffanatig, ac yn ceisio dinistrio eglwys Dduw. Rôn i’n cymryd crefydd gymaint o ddifri, ac ymhell ar y blaen i eraill oedd yr un oed â mi. Rôn i ar dân dros ein traddodiadau Iddewig ni. Ond roedd Duw wedi fy newis i cyn i mi gael fy ngeni, a buodd e’n anhygoel o garedig tuag ata i drwy fy ngalw i’w ddilyn. Gwelodd yn dda i ddangos ei Fab i mi, er mwyn i mi fynd allan i gyhoeddi’r newyddion da amdano i bobl o genhedloedd eraill! Wnes i ddim mynd i ofyn cyngor unrhyw un, na mynd i Jerwsalem i weld y rhai oedd yn gynrychiolwyr i Iesu o mlaen i chwaith. Na, es i’n syth i Arabia, ac wedyn mynd yn ôl i Damascus. Aeth tair blynedd heibio cyn i mi fynd i Jerwsalem i dreulio amser gyda Pedr, a dim ond am bythefnos arhosais i yno. Welais i ddim un o’r cynrychiolwyr eraill, dim ond Iago, brawd yr Arglwydd. Dyna’r gwir – o flaen Duw, heb air o gelwydd! Ar ôl hynny dyma fi’n mynd i Syria a Cilicia. Doedd Cristnogion eglwysi Jwdea ddim yn fy nabod i’n bersonol, ond roedden nhw wedi clywed pobl yn dweud: “Mae’r dyn oedd yn ein herlid ni wedi dod i gredu! Mae’n cyhoeddi’r newyddion da roedd e’n ceisio ei ddinistrio o’r blaen!” Roedden nhw’n moli Duw am beth oedd wedi digwydd i mi.
Galatiaid 1:11-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf am roi ar ddeall i chwi, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad rhywbeth dynol mohoni. Oherwydd nid ei derbyn fel traddodiad dynol a wneuthum, na chael fy nysgu ynddi chwaith; trwy ddatguddiad Iesu Grist y cefais hi. Oherwydd fe glywsoch am fy ymarweddiad gynt yn y grefydd Iddewig, imi fod yn erlid eglwys Dduw i'r eithaf ac yn ceisio'i difrodi hi, ac imi gael y blaen, fel crefyddwr Iddewig, ar gyfoedion lawer yn fy nghenedl, gan gymaint mwy fy sêl dros draddodiadau fy hynafiaid. Ond dyma Dduw, a'm neilltuodd o groth fy mam ac a'm galwodd trwy ei ras, yn dewis datguddio ei Fab ynof fi, er mwyn i mi ei bregethu ymhlith y Cenhedloedd; ac ar unwaith, heb ymgynghori â neb dynol, a heb fynd i fyny i Jerwsalem chwaith at y rhai oedd yn apostolion o'm blaen i, euthum i ffwrdd i Arabia, ac yna dychwelyd i Ddamascus. Wedyn, ar ôl tair blynedd, mi euthum i fyny i Jerwsalem i ymgydnabyddu â Ceffas, ac arhosais gydag ef am bythefnos. Ni welais neb arall o'r apostolion, ar wahân i Iago, brawd yr Arglwydd. Gerbron Duw, nid celwydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch. Wedyn euthum i diriogaethau Syria a Cilicia. Nid oedd gan y cynulleidfaoedd sydd yng Nghrist yn Jwdea ddim adnabyddiaeth bersonol ohonof, dim ond eu bod yn clywed rhai'n dweud, “Y mae ein herlidiwr gynt yn awr yn pregethu'r ffydd yr oedd yn ceisio'i difrodi o'r blaen.” Ac yr oeddent yn gogoneddu Duw o'm hachos i.
Galatiaid 1:11-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yw hi ddynol. Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist. Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi allan o fesur erlid eglwys Dduw, a’i hanrheithio hi; Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau. Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a’m neilltuodd i o groth fy mam, ac a’m galwodd i trwy ei ras, I ddatguddio ei Fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed: Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o’m blaen i yn apostolion; ond mi a euthum i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus. Yna ar ôl tair blynedd y deuthum yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod. Eithr neb arall o’r apostolion nis gwelais, ond Iago brawd yr Arglwydd. A’r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, wele, gerbron Duw, nad wyf yn dywedyd celwydd. Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia; Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist: Ond yn unig hwy a glywsent, fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu’r ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai. A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.